Tlws yr FA: Wrecsam i herio Southport

  • 14 Ionawr 2013
Andy Morrell
Mae Andy Morrell yn awyddus i ennill Tlws yr FA eleni

Bydd yn rhaid i Wrecsam deithio oddi cartref i chwarae Southport yn rownd wyth olaf Tlws yr FA.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn Stadiwm Merseyrail ar ddydd Sadwrn, Ionawr 26.

Cyrhaeddodd y Dreigiau'r wyth ola' ar ôl curo Sutton United 5-0 oddi cartref ddydd Sadwrn.

Dywedodd chwaraewr-reolwr Wrecsam, Andy Morrell, fod y clwb yn awyddus i ennill Tlws yr FA eleni.

"Does dim rhaid inni deithio'n bell ac mae gennym siawns o gyrraedd y rownd gynderfynol," meddai.

Mae Wrecsam eisoes wedi curo Southport ddwywaith y tymor hwn.

Curodd Wrecsam Southport o ddwy gôl i ddim yng Nghwpan yr FA ym mis Hydref, cyn ennill 4-1 yn Stadiwm Merseyrail yn Uwchgynghrair Blue Square ym mis Tachwedd.

Mae Wrecsam ar frig Uwchgynghriar Blue Square yn dilyn eu buddugoliaeth 2-1 yn Alfreton ddydd Mawrth diwethaf.

Tlws yr FA: Rownd yr Wyth olaf

Halifax v Dartford

Drindod Gainsborough v Gateshead neu Barrow

Grimsby v Luton

Southport v Wrecsam