Caerdydd 0-0 Ipswich

Frank Nouble
Image caption Frank Nouble o Ipswich: Bron ag ennill y gêm yn y symudiad ola'

Caerdydd 0-0 Ipswich

Roedd Caerdydd yn gorfod setlo am bwynt oherwydd gêm ddisgôr yn erbyn Ipswich.

Tarodd Guirane N'Daw y traws gyda'i ergyd o 30 llath, gan gynnig gobaith i'r ymwelwyr.

Gwastraffodd Craig Bellamy y cyfle gorau wrth oedi'n rhy hir o flaen y gôl.

Ar ddechrau'r ail hanner ildiodd Bellamy gic rydd a phan ergydiodd Aaron Cresswell llwyddodd Mark Hudson i glirio.

Bum munud yn ddiweddarach roedd cic gornel Bellamy yn fygythiol a llwyddodd David McGoldrick i glirio.

Ar ôl 57 munud roedd cic rydd wedi i Craig Noone herio Aaron Cresswell a phan groesodd Lee Martin arbedodd David Marshall.

Yn y symudiad ola' roedd Ipswich bron ag ennill ond aeth ergyd Frank Nouble heibio'r postyn o drwch blewyn.

Ond mae Caerdydd yn dal ar y brig.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.