Sutton United 0-5 Wrecsam

Clwb Pêl-droed Wrecsam

Sutton United 0-5 Wrecsam

Er gwaetha' cychwyn araf llwyddodd Wrecsam i reoli'r gêm a chyrraedd rownd gogynderfynol Tlws yr FA.

Creodd golgeidwad Wrecsam, Joslain Mayebi, argraff wrth arbed ddwywaith ond pan sgoriodd Rob Ogleby wedi hanner awr ildiodd y tîm cartre'n llwyr.

Peniodd Nick Rushton yn grefftus, ergydiodd Johnny Hunt o 10 llath ac ychwanegodd Joe Clarke un arall ar ddiwedd yr hanner cynta'.

Sgoriodd Kevin Thornton ychydig o eiliadau cyn y chwiban ola' ond roedd y gêm ar ben ymhell cyn hynny.