Damwain: Tri yn yr ysbyty

Mae'r heddlu'n chwilio am dystion wedi i gar Seat Ibiza daro tri o bobl brynhawn Sadwrn.

Roedd y ddamwain yn Ninas Powys, Bro Morgannwg, am 3.55pm a dyn lleol 21 oed oedd yn gyrru'r car.

Ymhlith y tri yn yr ysbyty mae menyw 65 oed ag anafiadau i'w phen.

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 01792 456999 estyniad 88331.