Gweilch 15-15 Caerlŷr

Dan Biggar
Image caption Biggar: Bwrodd y postyn ddwywaith a'r bar unwaith.

Gweilch 15-15 Caerlŷr

Daeth gobeithion y Gweilch yng Nghwpan Heineken i ben mewn gêm gyffrous yn Stadiwm y Liberty.

Roedd hon yn frwydr a hanner a thon ar ôl ton o ymosodiadau'n bygwth yr ymwelwyr yn yr hanner cynta'.

Aeth y Cymry ar y blaen oherwydd cais Joe Bearman i'r chwith o'r pyst. Trosodd Dan Biggar a chiciodd gic gosb.

Ciciodd Toby Flood gic gosb a chroesodd Ben Youngs y llinell pan oedd 13 munud ar ôl. Trosodd Flood.

Blino

Erbyn hyn, roedd y Gweilch wedi blino.

Oherwydd ymosodiad prin aeth Caerlŷr ar y blaen pan sgoriodd Niall Morris gais ond sgoriodd Jonathan Spratt i'r Gweilch wedi rhediad gwefreiddiol Eli Walker.

Yn anffodus, aeth cic Biggar heibio'r postyn. Eisoes roedd wedi bwrw'r postyn ddwywaith a'r bar unwaith.

Ni chafodd y Teigrod eu dofi.

Gweilch: Richard Fussell; Ross Jones, Tom Isaacs, Andrew Bishop, Eli Walker; Dan Biggar, Kahn Fotuali'i (capten); Ryan Bevington, Richard Hibbard, Adam Jones, Ian Gough, James King, Ryan Jones, Joe Bearman, Justin Tipuric.

Eilyddion: Scott Baldwin, Duncan Jones, Campbell Johnstone, Lloyd Peers, Sam Lewis/Jonathan Thomas, Rhys Webb, Matthew Morgan, Jonathan Spratt.

Caerlŷr: Mathew Tait, Niall Morris, Manusamoa Tuilagi, Anthony Allen, Adam Thompstone, Toby Flood, Ben Youngs; Marcos Ayerza, Tom Youngs, Dan Cole, Louis Deacon (capten), Geoff Parling, Steve Mafi, Julian Salvi, Jordan Crane

Eilyddion: Rob Hawkins, Logovi'i Mulipola, Martin Castrogiovanni, Ed Slater, Thomas Waldrom, Sam Harrison, George Ford, Matt Smith

Dyfarnwr: John Lacey (Iwerddon)