Dyn ar goll: Arestio bachgen 15 oed

Kyle Vaughan Image copyright Gwent Police
Image caption Kyle Vaughan

Mae Heddlu Gwent wedi arestio bachgen 15 oed ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr fel rhan o'r ymchwiliad i ddiflaniad dyn bythefnos yn ôl.

Dyma'r pedwerydd person i gael ei arestio fel rhan o'r ymchwiliad i ddiflaniad Kyle Vaughan, 24 oed o ardal Trecelyn, ar Ragfyr 30.

Mae'r heddlu wedi cael amser ychwanegol i holi dyn 27 oed a gafodd ei arestio yr wythnos ddiwethaf ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Fe gafodd dyn 21 oed ei arestio ddydd Sul ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, ac fe gafodd yr heddlu fwy o amser i holi dyn arall ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Fe gafodd dyn 62 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder ei rhyddhau ar fechnïaeth.

Gwrthdrawiad

Cafodd Mr Vaughan, sydd angen chwistrelliadau cyson o inswlin oherwydd diabetes, ei weld am y tro diwethaf ar Ragfyr 30 yn ardal Abercarn a Rhisga.

Yn ddiweddarach y noson honno, cafwyd hyd i'r gar Peugeot 306 ar yr A467 rhwng Rhisga a Cross Keys, a dywedodd yr heddlu eu bod yn credu fod y car wedi bod mewn gwrthdrawiad.

Er gwaetha' apêl genedlaethol am wybodaeth, does neb wedi gweld Mr Vaughan ers hynny, ac fe ddywedodd yr heddlu wrth y teulu ddydd Sadwrn eu bod bellach yn credu ei fod wedi marw.

Mae Mr Vaughan yn 5'8" o daldra ac o gorff tenau, ac mae ganddo wallt brown byr a llygaid brown. Roedd yn gwisgo cadwyn aur am ei wddf, ac mae ganddo datŵ ar ei fraich ac un ar ei goes dde.

Dywed Heddlu Gwent y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu 01633 838111, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.