April Jones; Mark Bridger
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Pledio'n ddi-euog i ladd April

14 Ionawr 2013 Diweddarwyd 21:06 GMT

Mae dyn 47 oed sydd wedi ei gyhuddo o gipio a llofruddio April Jones ym Machynlleth wedi pledio yn ddi-euog i'r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Ond, yn ôl ei fargyfreithiwr, mae'n debygol y bydd Mark Bridger yn cyfadde' mai fo oedd yn gyfrifol am farwolaeth y ferch fach bump oed.

O Lys y Goron yr Wyddgrug, adroddiad Craig Duggan.