Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cymeradwyo ad-drefnu

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Adroddiad Owain Clarke

Mae rheolwyr iechyd wedi penderfynu bwrw ymlaen â chynlluniau dadleuol i ad-drefnu gwasanaethau ar draws canolbarth a gorllewin Cymru.

Mewn cyfarfod arbennig yng Nghaerfyrddin ddydd Mawrth, cymeradwyodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda gynlluniau fyddai'n golygu cau unedau mân anafiadau yn Ninbych-y-pysgod a De Penfro.

Yn ogystal, byddai Ysbyty Cymunedol Mynydd Mawr yn Y Tymbl yn cau.

Bwriad arall yw canoli rhai gwasanaethau arbenigol - fel gofal i fabanod newydd-anedig gwael iawn - yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, gan gau'r uned arbenigol yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd.

Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys newidiadau i adran ddamweiniau Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli, fyddai'n dod o dan ofal nyrsys.

Bydd £40 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn chwe chanolfan iechyd cymunedol a bydd canolfan o ragoriaeth orthopedig yn cael ei sefydlu yn Ysbyty'r Tywysog Philip.

Yn ogystal, bydd gwasanaethau plant ac obstetreg yn cael eu cadw ar y tri phrif safle, cyn belled â bod lefelau staffio yn ddigonol.

'Gwell gofal'

Yn ôl y Bwrdd Iechyd, maen nhw wedi diwygio'r cynlluniau gwreiddiol rhywfaint yn sgil ymateb y cyhoedd a chlinigwyr - a byddan nhw'n sefydlu "grŵp clinigol i ail-ddylunio gwasanaethau ar gyfer achosion annisgwyl yn yr ysbyty".

Ond bydd hyn yn dal i fod dan ofal nyrsys, gyda chefnogaeth meddygon.

Dywedodd y bwrdd eu bod yn gobeithio y bydd y gwasanaethau newydd yn Ysbyty Tywysog Philip yn barod i dderbyn cleifion erbyn haf 2013 ac y bydd y staff o'r Tymbl yn cael pob cefnogaeth ar gyfer y cyfnod o newid.

"Rydym yn credu'n gryf y bydd cleifion sydd ar hyn o bryd yn mynd i Fynydd Mawr yn cael gwell triniaeth a gofal penodol yn Llanelli gyda chefnogaeth gofal yn y cartref," meddai Kathryn Davies, Cyfarwyddwr Strategol Integreiddio, Therapi a Gwyddoniaeth Iechyd ac Arweinydd Gwasanaethau Cymunedol y bwrdd iechyd.

Dywedodd y bwrdd hefyd y bydd cleifion yn elwa o wasanaeth o'r safon ucha' yn y ganolfan ragoriaeth orthopedig yn Llanelli a bydd yn lleihau dyblygu sy'n bodoli ar hyn o bryd ac yn lleihau nifer o lawdriniaethau sy'n gorfod cael eu canslo oherwydd achosion brys.

"Wrth fwrw ymlaen â chanolfan ragoriaeth, gallwn sicrhau canolfan benodol ar gyfer llawdriniaethau a thriniaethau ar gyfer cleifion Sir Gâr a Sir Benfro ac yn y diwedd, gobeithio, ar draws de Cymru," meddai Dr Phil Kloer, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Clinigol.

Cynllun peilot

O ran y newidiadau i adran ddamweiniau Ysbyty'r Tywysog Philip, dywedodd y bwrdd y bydd meddygon yn cynorthwyo nyrsys yno ond mai'r nyrsys fydd yn bennaf wrth y llyw a bydd gwasanaeth asesiad meddygol ar gael 24 awr y dydd.

Dywedodd y bwrdd bod y Rhwydwaith Newydd-Anedig yn credu bod y gwasanaeth gorau o ganlyniad i ganoli'r gwasanaeth ar gyfer y plant sy'n wael iawn mewn un safle ac mai dyna pam fod y bwrdd wedi bwrw ymlaen i ganoli'r gwasanaeth yng Nglangwili.

Bydd hyn yn darparu gwasanaeth effeithiol a diogel i fabanod meddai'r bwrdd, er y bydd gwasanaeth obstetreg a phaediatreg yn parhau ym mhob un o'r tair sir.

Dywedodd y bwrdd hefyd y bydd unedau mân anafiadau ar gael yn nes at y cymunedau a bydd cynllun peilot wyth wythnos yn Ninbych-y-pysgod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, ar yr amser y mae mwy o ymwelwyr â'r ardal.

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd y gallai mwyafrif o'r achosion fod yn cael eu trin gan feddygon cartref ac mai ar gyfartaledd 11 person y dydd sy'n mynychu'r uned yn Ne Penfro a 15 yn Ninbych-y-pysgod.

Fe fydd staff y ddwy uned yn cael eu trosglwyddo i Ysbyty Llwynhelyg.

'Fawr o newid'

Mae rheolwyr yn mynnu y bydd yr argymhellion yn arwain at well gofal i gleifion ond mae'r Cyngor Iechyd Cymuned lleol (CIC), sy'n cynrychioli barn y cleifion, wedi ymateb yn chwyrn gan gyhuddo'r bwrdd iechyd o anwybyddu barn y cyhoedd.

Er bod cyfnod ymgynghori 12 wythnos wedi'i gynnal ddiwedd y llynedd ar y cynlluniau, mae Cadeirydd CIC, Tony Wales, wedi cwestiynu onestrwydd yr holl broses.

"Does dim llawer wedi newid o'r cynlluniau a gyhoeddwyd yn wreiddiol ychydig dros flwyddyn yn ôl," meddai Mr Wales.

"Roedd yna filoedd o ymatebion i'r ymgynghoriad, mwy na'r disgwyl, ac roedd y bwrdd wedi dweud o'r cychwyn mai'r holiadur fyddai'r brif ffordd i'r cyhoedd fynegi barn...

"Roedd CIC wedi annog pobl i lenwi'r holiaduron yma a mynd i gyfarfodydd fel bod eu safbwyntiau'n cael eu hystyried, ond rydym wedi'n siomi fod yr ymatebion yma wedi'u hanwybyddu mwy neu lai.

'Twyllo'

"Byddai modd dadlau ar y sail yma fod ymgynghoriad y bwrdd yn ymddangos yn dipyn o siarâd a bod y cyhoedd wedi'u twyllo."

Aeth ymlaen i ddweud ei bod yn ymddangos fod gan y bwrdd "frys mawr" i gymeradwyo'r cynlluniau, er gwaetha' barn CIC, ac nad oedd hi'n ymddangos fod modd parhau â'r drafodaeth i geisio dod i gyfaddawd.

Mae ymateb CIC yn arwyddocaol gan y byddai ganddyn nhw'r grym i gyfeirio'r cynlluniau at Weinidog Iechyd Cymru Lesley Griffiths am benderfyniad terfynol petai nhw'n gwrthwynebu unrhyw ran o'r argymhellion.

Ychwanegodd y bwrdd iechyd na fydd y newidiadau yn digwydd tan y bydd yn ddiogel i'w cyflwyno.

Bwrdd Iechyd Hywel Dda yw'r cyntaf yng Nghymru i gyhoeddi eu cynlluniau terfynol i ad-drefnu gwasanaethau iechyd.

Dydd Gwener bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cwrdd i benderfynu sut maen nhw'n bwriadu ailstrwythuro gwasanaethau yn y gogledd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.