Cyhuddiadau dynladdiad wedi'u gollwng ar ôl damwain M5

Lleoliad damwain M5 Tachwedd 2011 Image copyright PA
Image caption Cafodd saith eu lladd a 51 eu hanafu yn y ddamwain rhwng 34 o gerbydau

Mae cyhuddiadau o ddynladdiad yn erbyn trefnydd arddangosfa tân gwyllt, wedi i saith o bobl farw mewn damwain ar draffordd yr M5, wedi cael eu gollwng.

Roedd Geoffrey Counsell, 50, o Wlad yr Haf, wedi trefnu'r digwyddiad ar gaeau Clwb Rygbi Taunton adeg y ddamwain ar Dachwedd 4, 2011.

Cafodd y ddamwain rhwng 34 o gerbydau wedi cael ei disgrifio fel un o'r gwaetha' ar draffyrdd Prydain erioed.

Bu llygad-dystion yn sôn am fwg mawr yn achosi problemau i yrwyr.

Roedd pâr o Gasnewydd, Tony a Pamela Adams, ymhlith y saith a fu farw.

Yn Llys y Goron Bryste ddydd Mercher, cafodd y cyhuddiadau gwreiddiol eu gollwng a chlywodd y diffynnydd y bydd nawr yn wynebu un cyhuddiad o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn Gweithle am iddo fethu â sicrhau diogelwch eraill.

Bydd yr achos yn cael ei gynnal ar ddyddiad i'w gadarnhau.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.