Marwolaeth yng Nghaerdydd: Rhyddhau wyth ar fechnïaeth

Lyn Prosser Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Bu farw Lyn Prosser wedi digwyddiad y tu allan i dafarn yng Nghaerdydd nos Sul

Mae wyth o bobol a gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddio dyn yng Nghaerdydd nos Sul wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Roedd Lyn Prosser yn 44 oed ac yn dod o ardal Pontypridd.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i dafarn O'Neill's ar Heol Eglwys Fair tua 11pm y noson honno.

Mae'r heddlu yn apelio am dystion yn enwedig rhai fyddai wedi ffilmio'r digwyddiad ar ffôn symudol.

'Ffonau symudol'

Dywed yr heddlu fod yr archwiliad post mortem wedi bod yn "amhendant" ac y byddai profion eraill yn cael eu cynnal i ganfod achos y farwolaeth.

Yn y cyfamser, mae teulu Mr Prosser yn cael cefnogaeth gan swyddogion cyswllt yr heddlu.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Paul Hurley o Heddlu De Cymru: "Rwy'n apelio ar unrhyw un a oedd yn yr ardal ac a welodd yr hyn ddigwyddodd naill ai'r tu mewn neu'r tu allan i O'Neill's i gysylltu â ni.

"Rydym hefyd yn awyddus i unrhyw un fyddai wedi tynnu lluniau neu ffilmio'r digwyddiad ar ffonau symudol i gysylltu â ni."

Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth ffonio Gorsaf Heddlu Caerdydd Ganolog ar 02920 527 303, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Straeon perthnasol