Karl Jenkins
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Beirniadu toriadau cerddoriaeth

16 Ionawr 2013 Diweddarwyd 09:03 GMT

Mae cyfansoddwr blaenllaw o Gymru wedi dweud wrth BBC Cymru y bydd rhagor o doriadau ar draws Cymru i wasanaethau cerddoriaeth i'r ifanc yn cael effaith niweidiol ar ddiwylliant y wlad.

Mae Karl Jenkins yn ofni y bydd gwersi cerddorol yn troi'n faes ar gyfer y cyfoethog.

Fe ddaw ei sylwadau ar ôl i nifer o gynghorau gynnig rhagor o doriadau i rai gwasanaethau cerddorol yng Nghymru.

Does dim rheidrwydd ar gynghorau i ddarparu gwasanaethau cerdd.

Bu Alun Rhys yn clywed barn arweinydd un o brif fandiau pres gogledd Cymru.