Llanystumdwy'n dathlu Dewin Dwyfor

David Lloyd George yn siarad gyda’r dorf yn Llanbed yn 1919
Roedd David Lloyd George yn gyfreithiwr ym Mhorthmadog cyn cael ei ethol yn Aelod Seneddol yn 1890

Cafodd dathliadau yn Llanystumdwy eu cynnal i nodi canrif a hanner ers geni David Lloyd George.

Yn Amgueddfa Lloyd George yn y pentref mae arddangosfa a darlith arbennig er cof am y gwleidydd byd-enwog, a aned ar Ionawr 17 1863.

Dydd Iau rhwng 11am a 2pm roedd cyfle i'r cyhoedd weld casgliad y 4ydd Iarll Lloyd-George o Ddwyfor o greiriau ac eiddo'r Rhyddfrydwr olaf i fod yn Brif Weinidog Prydain.

Yn eu plith cartwnau Punch o yrfa Lloyd George a lluniau teulu o'i gasgliad personol.

Am 3pm bu gwasanaeth wrth ymyl y bedd ar lan afon Dwyfor ac yna cafodd te ei weini yn neuadd y pentref yng nghwmni DL Carey-Evans, yr Iarll Lloyd-George, Elfyn Llwyd AS a disgyblion Ysgol Llanystumdwy.

Darlith

Ar Ionawr 18 bydd y Dr Steven Thompson, hanesydd o Brifysgol Aberystwyth, yn darlithio ar ddeddf yswiriant cenedlaethol Lloyd George, sef cychwyn y wladwriaeth les.

Dywedodd Philip George, gor-nai Lloyd George: "Rydw i'n parhau i gael fy synnu wrth feddwl fod hogyn a fagwyd yn Llanystumdwy, na chafodd fawr o addysg ffurfiol, wedi cyrraedd swydd uchaf y wlad a bod dylanwad ei lwyddiannau, er enghraifft y diwygiadau lles a gynhyrchwyd ganddo a'r egwyddorion tu cefn i'w gyllideb yn 1909, yn fyw hyd heddiw."

Dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd gyda chyfrifoldeb dros dreftadaeth: "Gobeithiaf yn fawr y bydd y digwyddiadau sydd wedi eu trefnu yn Llanystumdwy yn deyrnged haeddiannol i Lloyd George ac yn gyfle i ddysgu mwy am y dyn a'i yrfa.

"Mae llawer yn ei gofio fel arweinydd llywodraeth glymblaid yn ystod y Rhyfel Mawr a hefyd fel y dyn a gyflwynodd y system les Brydeinig. Ond mae yna fwy i'w ddarganfod bob amser a byddwn yn annog pobl i gymryd mantais o'r gweithgareddau hyn er mwyn cael dysgu mwy."

Wedi ei farwolaeth yn 1945, arddangoswyd rhai o bapurau personol Lloyd George yn y pentref gan ei ail wraig, Frances.

Erbyn heddiw, mae yna amgueddfa, theatr fach a llyfrgell er cof amdano.