£3.5m i hybu'r iaith Gymraeg yn y gymuned

  • 17 Ionawr 2013
Maes yr Eisteddfod Genedlaethol
Mae'r grantiau £100,000 yn fwy na'r llynedd

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd £100,000 yn fwy o grantiau ar gyfer hybu'r iaith Gymraeg yn 2013.

Bydd mudiadau sy'n hybu'r iaith yn y cymunedau yn rhannu £3.5 miliwn, gan gynnwys £852,184 ar gyfer yr Urdd, £543,000 ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol a £85,310 ar gyfer papurau bro.

Un o amcanion Strategaeth y Gymraeg, Iaith Fyw: Iaith Byw, yw cryfhau safle'r Gymraeg yn y gymuned.

'Mwynhau defnyddio'

Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog â chyfrifoldeb am y Gymraeg: "Rydyn ni am i fwy o bobl gael y cyfle i fwynhau defnyddio mwy o Gymraeg fel rhan o fywyd dydd i ddydd.

"Mae canlyniadau'r cyfrifiad wedi ein hatgoffa o bwysigrwydd sicrhau bod pawb o bob oedran yn gallu defnyddio'r iaith wrth gymdeithasu ym mhob cwr o Gymru.

"Drwy sefydliadau fel y mentrau a'r papurau bro, sy'n gweithio ar lawr gwlad, gallwn ni sicrhau ein bod ni'n rhoi cyfle i bobl ddefnyddio'u Cymraeg ac yn caniatáu i'n cymunedau ffynnu."

Y fenter iaith sy'n derbyn y grant mwyaf yw Rhondda Cynon Taf, £107,768.

Nid yw maint y grant wedi newid ers tair blynedd ond dywedodd y prif weithredwr, Kevin Davies: "A bod yn realistig, mae gofyn bod yn ddiolchgar.

'Jobyn enfawr'

"Mae'n arian cyhoeddus a rhaid i ni brofi ein bod yn ei wario fe mewn ffordd gywir.

"Ond mae 'na jobyn enfawr i'w wneud fel mae'r cyfrifiad yn dangos.

"Mae'r cynnydd wedi mynd i le mae'r angen, a bod yn deg, er bod 'na wastad le i ddadlau bod angen tipyn mwy i wneud yr holl waith."

Dywedodd yr Urdd eu bod yn croesawu'r cyhoeddiad.

"Rydym yn falch iawn o dderbyn cynnydd o £15,000 yn ein grant tuag at gostau cyflogi Swyddog Datblygu Gweithgareddau 11 i 14 oed o fewn cymunedau ar draws Cymru," meddai Efa Gruffudd Jones, y prif weithredwr.

'Ddim yn ddigon'

"Mae dyfodol y Gymraeg yn nwylo pobl ifanc. Felly mae'n wych ein bod yn gallu cynyddu ein darpariaeth iddyn nhw."

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Robin Farrar: "Er ein bod yn falch nad oes rhagor o doriadau i grantiau'r mudiadau Cymraeg, nid yw'n mynd i fod yn ddigon i sicrhau'r cynnydd sylweddol sydd ei eisiau yn nifer y siaradwyr Cymraeg.

"Dyna pam, yn ein maniffesto byw, ry'n ni'n galw am adolygiad cyflawn o holl wariant y Llywodraeth, i'w gynnal gan gorff annibynnol, ac asesu perthynas y gwariant â'r Gymraeg ...

"O ystyried y twf sydd wedi bod yn nifer y siaradwyr Basgeg mewn cyfrifiadau ers 1991, dylid cynyddu'r adnoddau a roddir i hyrwyddo'r Gymraeg i lefelau'r wlad honno, sef pedair gwaith cymaint â'r gwariant presennol yng Nghymru."

Y manylion yn llawn:

Yr Urdd £852,184, Menter Môn £89,132, Menter Iaith Fflint £72,043, Menter Merthyr £58,400, Eisteddfod Genedlaethol £543,000;

Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot £77,415, Menter Iaith Maldwyn £72,591, Hunaniaeth £83,715, Menter Iaith Conwy £97,678, Mentrau Iaith Cymru £61,500;

Merched y Wawr £84,205, Menter Iaith Maelor £36,540, Menter Bro Dinefwr £93,000, Menter Iaith Rhondda Cynon Taf £107,768, Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru £89,719, Menter Brycheiniog £28,451, Partneriaeth Aman Tawe-Castell-nedd £38,000, Partneriaeth Aman Tawe-Dinefwr £38,000, Menter Iaith Casnewydd £47,250;

Menter Bro Ogwr £59,435, Menter Caerdydd £84,591, Menter Iaith CERED £103,068, Menter Iaith Abertawe £102,145, Menter Iaith Caerffili £95,552, Menter Iaith Sir Ddinbych £81,583, Menter Iaith Sir Benfro £90,279, Menter Gorllewin Sir Gâr £66,921, Cymdeithas Eisteddfodau Cymru £46,036;

Gwobr Dug Caeredin £20,300, Gwallgofiaid/Cellb £23,000, Menter Iaith Cwm Gwendraeth £87,791, RHAG £35,140, Sefydliad Cerddoriaeth Cymreig £12,165, Dyffryn Nantlle 20/20 £3,000, Menter Iaith Blaenau Gwent £42,750, Plant yng Nghymru £3,000.