Tro pedol ar fudd-dal treth cyngor

  • 17 Ionawr 2013
Carl Sargeant AC
Dywedodd Carl Sargeant AC y byddai'r arian yn dod o gronfa wrth gefn a chyllidebau adrannol

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod wedi llwyddo i ddod o hyd i arian i lenwi'r bwlch ar gyfer budd-daliadau treth cyngor er eu bod wedi dweud yn wreiddiol nad oedd arian ar gael.

Cyhoeddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, y byddai Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £22 miliwn wedi'r cwbl er i Aelodau'r Cynulliad gael eu galw yn ôl o'u gwyliau Nadolig i bleidleisio ar y mater.

Mae'r tro pedol yn golygu na fydd cannoedd o filoedd o bobl ar eu colled.

Roedd llywodraeth y DU wedi trosglwyddo cyfrifoldeb am fudd-dal treth cyngor i Fae Caerdydd ond wedi rhoi 90% o'r cyllid angenrheidiol.

Yr un oedd y sefyllfa ar draws Prydain ond bod Senedd yr Alban a nifer o gynghorau Lloegr eisoes wedi cyflwyno rhaglenni i dalu'r gwahaniaeth.

'Testun pryder'

Mae Mr Sargeant wedi dweud bod yr arian yn dod o gronfa wrth gefn y llywodraeth ynghyd â chyllidebau adrannol.

"Yn dilyn y newidiadau i'r system les a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU, oedd yn cynnwys gostyngiad o 10% mewn cyllid ar gyfer cymorth y dreth gyngor, byddai'r cynllun a gyhoeddais ym mis Rhagfyr wedi golygu llai o incwm i'r bobl sy'n gallu fforddio hynny leiaf.

"Roedd hyn yn destun pryder mawr i mi ac aelodau eraill y Cabinet.

"Ers mis Rhagfyr mae effaith holl newidiadau Llywodraeth y DU i'r budd-daliadau lles wedi dechrau dod yn fwy amlwg.

"Fel Llywodraeth gyfrifol, rydym wedi cadw elfen o'n cronfeydd wrth gefn yn ôl rhag ofn inni orfod wynebu pwysau annisgwyl fel tywydd eithafol, clefydau pandemig neu argyfyngau eraill yn ystod y gaeaf.

"Wrth i'r pwysau hyn fynd heibio, fodd bynnag, ac wrth inni dynnu at derfyn y flwyddyn ariannol, gallwn fod yn dawel ein meddwl wrth ddefnyddio rhywfaint o'r arian yma i roi cymorth ychwanegol i bobl sy'n gymwys i hawlio budd-dal y dreth gyngor."

'Blerwch'

Roedd y gwrthbleidiau yn croesawu'r tro pedol ond yn feirniadol iawn o Lywodraeth Cymru. Dywedodd Peter Black, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar Lywodraeth Leol a Chyllid: "Yn sicr, mae hwn yn newyddion i'w groesawu ond fe allai Llywodraeth Cymru fod wedi osgoi'r ansicrwydd a'r llanast a grëwyd cyn y Nadolig pe baen nhw wedi gweithredu'n gynt.

"Roedd Aelodau Cynulliad wedi'u syfrdanu bod Llywodraeth Cymru wedi aros tan y funud olaf, ac wedi gwrthod talu'r arian ychwanegol wrth i'r Alban a llawer o gynghorau Lloegr gyflwyno cynlluniau mewn digon o amser.

"Blerwch llwyr yw hyn gan Lywodraeth Lafur Cymru."

'Anhygoel'

Ychwanegodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood AC: "Mae'r tro pedol hwn gan y llywodraeth yn fuddugoliaeth i bawb a ymunodd gyda Phlaid Cymru i ymgyrchu yn erbyn y toriadau i fudd-daliadau treth cyngor.

"Galwodd Rhodri Glyn Thomas, llefarydd Plaid Cymru ar y materion hyn, am weithredu yn gyntaf yn ôl ym mis Ebrill llynedd ac mae'n anhygoel, a dweud y gwir, fod y llywodraeth wedi gwrthod gwrando ar ein galwadau tan nawr.

"Bu'n amser pryderus iawn i bobl ledled Cymru fu'n wynebu posibilrwydd o doriad yng nghyllideb eu cartrefi.

"Rydyn ni'n croesawu felly fod y llywodraeth o'r diwedd wedi penderfynu mabwysiadu ein polisi o dalu am y bwlch - er ei bod yn siomedig ei bod wedi cymryd cyhyd i ateb ein galwad."

'Embaras'

Ar ran y Ceidwadwyr, dywedodd eu llefarydd nhw ar Lywodraeth Leol, Janet Finch-Saunders AC:

"Fe geisiodd gweinidogion Llafur wthio'r rheolau yma heb graffu digonol, ac yna bu'n rhaid iddyn nhw fynd yn ôl i'r dechrau.

"Dyna sy'n digwydd wrth geisio creu polisïau ar fympwy. Bu'n rhaid ailymgynnull y Cynulliad ym mis Rhagfyr i basio'r rheolau, ond yna mis yn ddiweddarach mae'r Gweinidog am ail-ddrafftio'r cynlluniau.

"Mae'n embaras bod Llafur mor ara' deg yn y mater yma, ac mae'r symudiad yma yn dystiolaeth bellach o'u camreoli cefnogaeth Treth Cyngor o'r dechrau."