Bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn penderfynu ar newidiadau

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae'r bwrdd am weld y gwasanaeth gofal i fabanod sal iawn yn symud dros y ffin

Fe fydd bwrdd iechyd mwyaf Cymru yn cwrdd i ddod i benderfyniadau terfynol ynglŷn â newidiadau pellgyrhaeddol i'r gwasanaeth iechyd yng ngoledd Cymru.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i 680,000 o drigolion Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall y bydd penaethiaid y bwrdd yn dewis bwrw 'mlaen â mwyafrif y cynlluniau gafodd eu dogfen ymgynghorol y llynedd.

Y bwriad fyddai cau tri ysbyty cymunedol ym Mlaenau Ffestiniog, Y Fflint a Llangollen.

Byddai ysbytai eraill yn colli gwasanaethau fel adrannau man anafiadau a phelydr x.

Mae 'na ymgyrchu brwd wedi bod mewn sawl man yn gwrthwynebu'r newidiadau gan gynnwys Y Fflint a Blaenau Ffestiniog.

Canoli arbenigedd

Er hynny mae'r bwrdd yn mynnu y byddan nhw'n parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau fyddai'n galluogi cleifion i gael mân driniaethau yn nes at eu cartrefi ac y bydd y newidiadau yn golygu gwell gofal i gleifion yn y pendraw.

"Mae llawer mwy o bobl yn diodde' gydag afiechydon parhaus neu gronig fel clefyd siwgr neu ddementia ac maen nhw angen y gofal yn y cartref yn hytrach nag mewn ysbyty," eglurodd Yr Athro Merfyn Jones, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

"Ar yr un pryd, pan mae pobl wir angen mynd i'r ysbyty i gael llawdriniaeth neu ofal arbenigol mae angen sicrhau bod gennym ni y canolfannau gyda'r arbenigedd sydd ei angen.

"Ar un ochr mae angen mwy o ofal yn y cartref ac mor agos at y cartref a'r ochr arall, mae angen sicrhau bod canolfannau o wir arbenigedd ar gael er efallai y bydd angen teithio ymhellach ar gyfer hynny.

"Y pwyslais ar gyfer y dyfodol ydi gwasanaethau lleol ac mae hynny yn dibynnu ar feddygon teulu, nyrsys a chanolfannau iechyd ac ati ond hefyd ar ofal cymdeithasol a gofal o wahanol fathau.

"Mae angen i ni sicrhau ein bod yn darparu yn lleol ac yn y cartref ar yr un pryd bod y gwir arbenigedd yn yr ysbytai pan fo angen."

Un o gynigion mwyaf dadleuol y bwrdd yw symud y gwasanaethau gofal dwys i fabanod, sy'n cael ei gynnig yn Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam, dros y ffin i Ysybty Arrowe Park yng Nghilgwri.

'Amser pryderus'

Mae'r rheolwyr yn dadlau nad yw'r unedau presennol yn cydymffurfio â safonau cenedlaethol o ran gofal.

Mae 1,387 o bobl wedi gwrthwynebu'r cynllun trwy ddeiseb ar-lein.

Cafodd Betrys Owens o Ddinbych ei geni 15 wythnos yn gynnar gan bwyso 1 pwys 9 owns ac fe dderbyniodd driniaeth a gofal am bedwar mis yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.

"Roedd hi'n adeg bryderus iawn," eglurodd ei thad Sion Owens.

"Dwi'n hynod o falch fod yr ysbyty yn agos i ni fel teulu.

"Heb yr ysbyty dwi ddim yn meddwl y byddai Betrys yma o gwbl, dwi ddim yn meddwl y byddai hi wedi gallu ymdopi gyda'r daith i'r ysbyty yng Nghilgwri.

"Mae'n straen beth bynnag ond gan fod yr ysbyty yn weddol agos doedd y straen ychwanegol o orfod teithio ymhellach i fod efo hi a pharhau i weithio ddim yna.

"Mae angen meddwl am yr effaith y mae'n ei gael ar deuluoedd, o ran y teithio a bod y fam yn aml iawn yn sâl mewn ysbyty arall."

Mae cyrff proffesiynol fel Coleg Brenhinol y Bydwragedd, Coleg Brenhinol y Nyrsys a Chymdeithas Feddygol y BMA wedi galw ar y bwrdd i ailystyried y cynnig gan ddadlau bod modd cynnal gwasanaeth i fabanod sâl iawn yn y gogledd.

Mae rhai gwleidyddion lleol hefyd wedi mynegi pryder.

"Mae'r cynllun yma yn cael ei wrthwynebu gan arbenigwyr ac eto mae'r bwrdd wedi parhau i wthio'r cynllun ymlaen," meddai Llŷr Huws Gruffydd, AC Plaid Cymru dros Ogledd Cymru.

"Fe fydd yn costio £1.1 miliwn y flwyddyn ac eto mae hanes Arrowe Park yn codi pryderon.

"Methodd y ddogfen ymgynghori â nodi nad ydi Arrowe Park yn bodloni canllawiau BAPM, mae ganddi gymhareb o 1 nyrs i 2 fabi tra bod y gymhariaeth yng Nglan Clwyd a Maelor o ran gofal newydd-enedigol yn 1:1."

'Gwasanaeth cynaliadwy'

Mae'r bwrdd iechyd yn mynnu fod yn rhaid iddyn nhw newid gwasanaethau er mwyn ymateb i heriau fel poblogaeth sy'n heneiddio a phrinder meddygon.

Y nod medden nhw yw sicrhau bod gwasanaethau yn gynaliadwy yn yr hir dymor.

Mae'r bwrdd, fel pob un arall yng Nghymru, yn wynebu gwasgfa ariannol sylweddol sy'n golygu dod o hyd i arbedion gwerth degau o filoedd o bunnau bob blwyddyn.

Ond er bod y bwrdd iechyd yn cwrdd ddydd Gwener i gytuno ar gynigion terfynol - fe allai'r Cyngor Iechyd Cymuned Lleol (CIC) - sy'n cynrychioli cleifion - gyfeirio'r cynlluniau yn y pendraw at y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths am ddyfarniad.

Mewn ymateb i'r ymgynghoriad dywedodd CIC nad oedd y cynlluniau yn ymateb yn ddigonol i ofynion cleifion y gogledd.

Ni fydd y cynlluniau dan ystyriaeth yn effeithio ar unedau brys na gwasanaethau orthopedig a mamolaeth.

Ond mae 'na awgrym y bydd y bwrdd yn bwrw ymlaen i ystyried adrefnu'r gwasanaethau hynny rywbryd yn y dyfodol.