Y Dreigiau yn colli o bwynt yn erbyn Wasps yng Nghwpan Amlin

Mike Poole yn colli gafael o dan bwysau gan Andrea Masi
Image caption Mike Poole yn colli gafael o dan bwysau gan Andrea Masi

Y Dreigiau 19-20 Wasps

Llwyddodd Wasps i sicrhau y byddan nhw'n chwarae adre yn rownd yr wyth olaf o Gwpan Amlin ar ôl trechu Dreigiau Gwent o bwynt.

Sgoriodd y Cymro Nicky Robinson 15 pwynt gyda chais a dau drosgais a dwy gic gosb i'r ymwelwyr.

Cafodd Wasps gais gosb hefyd.

Dan Evans gafodd unig gais y Dreigiau gyda Tom Prydie yn trosi ac yn llwyddo gyda dwy gic gosb.

Roedd y timau'n gyfartal 13 yr un ar yr hanner.

Ond doedd tîm Dai Young ddim yn barod i ddychwelyd i Lundain wedi colli.

Yn yr ail hanner fe wnaeth Robinson sichrau hynny gyda'i gais.

Collodd Prydie gic gosb cyn i'r eilydd Steffan Jones lwyddo a dod a'r tîm cartref o fewn pwynt gyda chwe munud i fynd.

Ond methodd y Dreigiau i ganfod unrhyw gyfle cyn diwedd yr 80 munud.

Llwyddodd Wasps i guro'r Dreigiau am yr eildro yn y gystadleuaeth ar ôl eu trechu 38-25 ym Mharc Adams.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.