Peacocks: Cynlluniau perchnogion newydd i ehangu

Arwydd siop Peacocks
Blwyddyn wedi mynd i ddywlo'r gweinyddwyr, y cwmni yn gwneud yn dda

Mae'r cwmni brynodd y cwmni dillad Peacocks wedi datgelu cynlluniau i ail-ddechrau ehangu'r cwmni a hynny yn rhyngwladol.

Bu'n rhaid i Peacocks gau dros 200 o siopau ac fe gollodd 250 o bobl eu gwaith ym mhencadlys y cwmni yng Nghaerdydd flwyddyn yn ôl.

Ers hynny mae'r perchnogion newydd, Edinburgh Woollen Mill (EWM), wedi cyflogi dros 1,000 aelod staff newydd ac agor 45 siop.

Dywed arbenigwyr manwerthu fod EWM wedi achub Peacocks am eu bod wedi canolbwyntio ar elfennau sylfaenol y cwmni.

Ar hyn o bryd mae 450 siop Peacocks ar agor.

Dywed EWM eu bod am agor cannoedd o siopau eraill yn y DU a thramor yn y dyfodol.

'Gwneud yn dda'

Mae'r cwmni yn cynllunio i ailddechrau ehangu'r busnes yn Yr Almaen a'r Dwyrain Canol ac mae EWM wedi datgan eu hymrwymiad i gadw pencadlys Peacocks yn ne Cymru.

Dywedodd Alistair Wardell, arbenigwr methdaliad cwmni Grant Thornton, fod EWM wedi bod yn fuddiol i Peacocks

"Achubodd EWM y cwmni ac mae'n edrych fel bod Peacocks yn gwneud yn dda iawn," meddai.

Dywedodd EWM yn ystod y gwanwyn y llynedd eu bod yn teimlo bod Peacocks yn gwerthu nwyddau oedd yn rhy ddrud ac roedden nhw wedi colli golwg o'u prif gwsmeriaid.

Yn ôl George MacDonald, golygydd gweithredol Reatil Week, mae EWM wedi canolbwyntio ar gwsmeriaid traddodiadol Peacocks yn hytrach 'na dynwared siopau fel Top Shop.

"Mae EWM wedi canolbwyntio ar y fath o ddillad mae pobl yn cysylltu â Peacocks," meddai.