Helpu dianc: Menyw 34 oed o Fryste yn y llys

  • 18 Ionawr 2013
Brian Grady
Dihangodd Brian Grady, 26 oed (ei enw arall yw Brian Revill) ddydd Llun

Bydd menyw 34 oed o Fryste yn y llys ddydd Sadwrn ar gyhuddiad o helpu llofrudd ddianc o garchar agored Prescoed yn Sir Fynwy.

Fe fydd gerbron Ynadon Caerffili ac roedd y llys ynghau ddydd Gwener oherwydd y tywydd.

Mae'r heddlu yn dal i chwilio am Brian Grady, 26 oed, a gafodd ei garcharu am lofruddio a lladrata.

Dihangodd Brian Grady (ei enw arall yw Brian Revill) ddydd Llun.

Cafodd Grady, o Fryste, isafswm o 11 mlynedd o garchar yn 2003 am lofruddio Liam Attwell.

Roedd Mr Attwell wedi ei drywanu pan heriodd griw o bobl ifanc oedd yn ceisio dwyn ffôn symudol.

Dywedodd yr heddlu: "Ni ddylai neb fynd yn agos ato."

Mae Grady'n 5 troedfedd 11 fodfedd o daldra a chanddo wallt brown golau a llygaid glas.

O dan ei lygad chwith mae craith.