Heineken Cup Pool 5: Scarlets 0-29 Clermont

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Roedd Morgan Parra ymhlith y sgorwyr i Clermont

Scarlets 0-29 Clermont Auvergne

Pwysleisiodd Clermont eu statws fel un o'r ffefrynau ar gyfer Cwpan Heineken drwy chwalu'r Scarlets gan sicrhau gêm gartref yn rownd yr wyth olaf.

Sgoriodd y Ffrancwyr pedwar cais wrth sicrhau pwynt bonws yn y gêm olaf yn y grwpiau ym Mharc y Scarlets.

Nalpolini Nalaga, Morgan Parra, Benson Stanley a Aurelien Rougerie groesodd y llinell i'r ymwelwyr, gyda Parra a David Skrela yn rhannu'r dyletswyddau cicio.

Er bod y rhanbarth o Gymru eisoes yn gwybod bod eu cystadleuaeth nhw ar ben am y tymor hwn, roedden nhw wedi gobeithio osgoi colli bob gêm yn Ewrop yn eu hanes.

Roedd y gêm drosodd i bob pwrpas erbyn yr egwyl wrth i Clermont sgorio tri chais yn yr hanner cyntaf.

Ar y diwrnod y dechreuodd Sean Holley ar ei waith fel aelod o dîm hyfforddi'r Scarlets, methodd y tîm cartref ag ymateb o gwbl er gwaetha' gwelliant sylweddol yn yr ail hanner.

Llwyddodd Clermont i wrthsefyll ymdrechion y Scarlets yn yr ail gyfnod, ac fe ddaeth y pedwerydd cais diolch i waith ardderchog un o gyn ffefrynnau'r Scarlets, Regan King, a greodd y cyfle i Rougerie sgorio'r pedwerydd cais.