Algeria: Gwystl o'r Bermo 'yn ddiogel'

Gwarchae
Image caption Cuddiodd y Cymro yn ystod y gwarchae

Mae dyn o Wynedd oedd yn gweithio ar y safle BP yn Algeria wedi dweud wrth ei deulu a'i ffrindiau ei fod yn ddiogel ac yn iach.

Fe guddiodd Garry Roberts o'r Bermo mewn llofft gyda dyn arall yn ystod y gwarchae.

Y gred yw bod Mr Roberts wedi rhedeg siop sglodion yn y Bermo lle mae wedi byw am 20 mlynedd.

Mae'n gyn-aelod o griw Sefydliad Badau Achub Y Bermo.

Mae ei deulu wedi cael gwybod ei fod yn cael ei holi am y gwarchae cyn iddo ddychwelyd adre'.

Yn y cyfamser, mae Prif Weinidog y DU, David Cameron, wedi cadeirio cyfarfod pwyllgor argyfwng llywodraeth Prydain, COBRA, sy'n trafod y sefyllfa yn Algeria.

Mae 'na adroddiadau bod degau wedi eu lladd, gan gynnwys o leiaf dri o wledydd Prydain.