Diswyddiadau pellach yn y fyddin

Milwyr Image copyright Reuters
Image caption Y bwriad yn y pendraw yw arbed £38 biliwn o'r gyllideb amddiffyn

Mae disgwyl y bydd 5,000 o bobl yn cael eu diswyddo, fel rhan o gynllun sydd eisoes wedi ei gyhoeddi i leihau nifer aelodau'r fyddin o 102,000 i 82,000 erbyn 2017.

Dyma'r trydydd cyhoeddiad ynghylch diswyddiadau yn y lluoedd arfog ers cyhoeddi'r adolygiad amddiffyn strategol yn 2010.

Yn Awst a Medi 2011 cyhoeddwyd 2,800 o ddiswyddiadau ar draws y lluoedd arfog, gyda 4,000 o ddiswyddiadau arall yn cael eu cyhoeddi ym Mehefin y llynedd.

Ar y ddau achlysur, roedd mwyafrif y rhai a effeithiwyd wedi gwirfoddoli i adael y lluoedd arfog.

Mae disgwyl na fydd y llynges na'r awyrlu yn cael eu cynnwys yn y cyhoeddiad ddydd Mawrth, ac mae arbenigwyr wedi darogan y bydd yn cynnwys canran uwch o ddiswyddiadau gorfodol nag a gafwyd mewn cyhoeddiadau blaenorol.

Fydd y cyhoeddiad ddim yn cynnwys milwyr sydd yn Afghanistan ar hyn o bryd, na chwaith milwyr sydd ar fin cael eu hanfon yno.

'Mwy o filwyr'

Yn siarad ar y Post Cyntaf, dywedodd yr Uwch Gapten Alan Davies: "Rhaid i ni weld newidiadau mewn polisi tramor cyn newid strwythur y lluoedd arfog, a dydyn ni ddim wedi gweld hynny tan wythnos diwethaf, pan welon ni rywbeth newydd, sef y bygythiad o Ogledd Affrica, yn yr ardal ble roedd Ffrainc yn rheoli flynyddoedd yn ôl.

"Rydyn ni nawr angen mwy o filwyr, nid lluoedd arfog, mwy o filwyr, i ymateb i'r bygythiad yna, nid torri nifer y milwyr fel mae'r llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi.

Dywedodd bod newidiadau o ran technoleg, er enghraifft y defnydd o awyrennau di-beilot, yn help: "Ond os ydych chi moyn ennill brwydr, neu ymateb i derfysgaeth fel y gwelon ni yn Algeria, yr unig bobl sy'n gallu neud hynny yw milwyr ar y tir, 'dy ni ddim yn mynd i fod yn ymateb i'r math yna o fygythiad os ydyn ni'n torri'r nifer."

Dywedodd Carol Davies Gaerwen, Ynys Môn, sy'n fam i un sydd ar ei ffordd adref o Afghanistan ar hyn o bryd: "Dwi ddim yn gwybod ar hyn o bryd, mwy nac ydy'r mab, a fydd hyn effeithio arno fo... fydd yr hogiau ddim yn gwybod mae'n siwr tan y byddan nhw wedi dwad adre.

"Fel pob mam, dwi'n poeni am fy mhlant, dyfodol y teulu bach, dyfodol y soldiwrs 'ma i gyd, beth sy'n mynd i ddigwydd iddyn nhw pan maen nhw'n dod allan, ble maen nhw'n mynd i fynd, beth maen nhw'n mynd i wneud? Ac mae'r wlad mewn tipyn o stad ar hyn o bryd, efo colli gwaith, siopau'n cau...

"Gobeithio os gollith o ei waith ella fydd 'na swydd arall allan yna iddo fo yn rhywle, ella bydd hynny'n golygu emigratio, fedrwch chi ddim deud, tan eich bod chi'n gwybod yn bendant."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.