Cyfle i'r Elyrch gyrraedd eu rownd derfynol gyntaf

Michu
Michu yn dathlu ei gôl yn erbyn Chelsea yn y cymal cyntaf yn Stamford Bridge

Mae gan Glwb Pêl-droed Abertawe gyfle euraid i gyrraedd rownd derfynol un o brif dlysau pêl-droed Lloegr am y tro cyntaf yn eu hanes.

Abertawe sydd â mantais o ddwy gôl ar ôl ennill cymal cyntaf rownd gynderfynol Cwpan Capital One yn erbyn Chelsea yn Stamford Bridge yr wythnos diwethaf.

Ddydd Mercher cafodd yr Elyrch newyddion da ar ôl i'w ymosodwr Miguel Michu arwyddo cytundeb pedair blynedd.

Michu sgoriodd gôl gynta'r Elyrch yn y cymal cyntaf yn erbyn Chelsea ar ôl camgymeriad Branislav Ivanovic ac fe ddaeth ail Yr Elyrch funud wedi awr a hanner a Danny Graham yn rhwydo.

Mae amddiffynnwr Abertawe Chico Flores yn holliach ar ôl colli buddugoliaeth yr Elyrch o dair gôl i un yn erbyn Stoke City ddydd Sadwrn.

Y golwr Gerhard Tremmel sy' wedi chwarae ym mhob gêm yn y gystadleuaeth a fe, nid y dewis cyntaf Michel Vorm, sy'n debygol o ddechrau'r gêm yn Stadiwm Liberty nos Fercher.

Nid yw John Obi Mikel a Victor Moses ar gael i Chelsea am eu bod yn cynrychioli Nigeria yng Nghwpan Gwledydd Affrica.

Ond mae'n bosib y bydd cyn-gapten Lloegr John Terry yn dechrau ei gêm gyntaf i'r Gleision ers mis Tachwedd.

Anodd

Pan adawodd Brendan Rodgers ar ddiwedd tymor cyntaf llwyddiannus yr Elyrch yn yr Uwchgynghrair, roedd rhai yn darogan tymor anodd i Abertawe.

Ond mae'r rheolwr newydd Michael Laudrup wedi llywio'r tîm i hanner ucha'r tabl erbyn canol y tymor ac arwyddodd Michu o Rayo Vallecano am £2m, un o'r bargeinion gorau yn y farchnad drosglwyddo ers blynyddoedd.

Mae Michu eisoes wedi sgorio 16 gôl i'r Elyrch y tymor hwn ac yn awyddus i ychwanegu i'w gyfanswm nos Fercher.

Mae Laudrup yn benderfynol o arwain Abertawe i ennill un o'r prif gystadlaethau am y tro cyntaf yn hanes 100 mlynedd y clwb.

Cryfhau

I Rafa Benitez, rheolwr Chelsea, mae'n gyfle i gryfhau ei gais i aros yn bennaeth ar y Gleision.

Os byddan nhw'n curo Chelsea bydd yr Elyrch yn herio Bradford City o'r Ail Adran, dair adran yn is na'r Uwchgynghrair, yn y rownd derfynol yn Stadiwm Wembley ar Chwefror 24.

Curodd y Bantams Aston Villa 4-3 dros y ddau gymal nos Fawrth i gyrraedd y rownd derfynol.

Hwn yw'r trydydd tro i Abertawe gyrraedd rownd gynderfynol un o brif dlysau pêl-droed Lloegr.

Collodd yr Elyrch 3-0 i Bolton Wanderers yn White Hart Lane yng Nghwpan yr FA ym 1926 a cholli fu'r hanes yn 964 wrth i Preston North End eu curo 2-1 yn Villa Park.