Thomas ar y blaen yn Awstralia

Geraint Thomas Image copyright Getty Images
Image caption Geraint Thomas yn ennill ail gymal y Tour Down Under

Mae Geraint Thomas yn dal ar y blaen yn ras y Tour Down Under yn Awstralia ar ôl dod yn bedwerydd yn y trydydd cymal.

Roedd y cymal yn cynnwys pum tro o gwmpas cylchdaith yn nhre Stirling ym mryniau Adelaide, a rhiw tua'r diwedd oedd yn her i hyd yn oed y sbrintwyr mwyaf profiadol.

Dywedodd y seiclwr 26 oed gyda Team Sky: "Roedd hi'n eitha' caled allan yna... ac roedd yn rhaid i'r bechgyn reidio'n galed iawn.

"Fe wnaethon nhw waith anhygoel heddiw, yn gosod tempo cyflym drwy'r dydd, a fedra i ddim diolch iddyn nhw'n ddigonol.

"Fedres i ddim gorffen ar y podiwm. Mi fyddai wedi bod yn neis cael ychydig eiliadau'n fwy o fonws. Roedd yn ddiwrnod caled ond fe gwblhawyd y dasg am wn i."

Tom-Jelte Slagter o'r Iseldiroedd enillodd y trydydd cymal.