Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Ffrae yn corddi am ysgol Gymraeg

24 Ionawr 2013 Diweddarwyd 09:28 GMT

Mae ffrae yn corddi yng Nghastellnewydd Emlyn dros gynlluniau i droi ysgol gynradd y dref yn ysgol Gymraeg.

Ar hyn o bryd, mae yna ffrwd Gymraeg ac un Saesneg yn Ysgol y Ddwylan, ond mae'r llywodraethwyr wedi pleidleisio dros gynnal ymgynghoriad ar newid hynny, ond nid yw'r penderfyniad wrth fodd pawb fel y clywn ni gan Aled Scourfield.