Harris yng ngharfan criced Lloegr

James Harris Image copyright Huw Evans picture agency

Mae'r Cymro James Harris wedi cael ei gynnwys yng ngharfan undydd Lloegr ar gyfer y gyfres 50 pelawd yn erbyn Seland Newydd fis nesaf.

Roedd Harris yn wreiddiol wedi cael ei ddewis i deithio gyda Llewod Lloegr (yr ail garfan) ar daith i Awstralia.

Cafodd y bowliwr cyflym 22 oed o Dreforys ei gynnwys yng ngharfan 20/20 Lloegr ar gyfer y gyfres yn erbyn India fis diwethaf, ond ni chafodd ei ddewis yn yr 11 terfynol.

Gallai Harris gael ei gap llawn cyntaf yn y gyfres yn erbyn Seland Newydd rhwng Chwefror 17-23.

Harris yw'r chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae i dîm cyntaf Morgannwg pan oedd yn 16 oed, a bu'n chwarae i'r sir tan yr haf diwethaf pan adawodd i ymuno â Middlesex.

Dywedodd Geoff Miller - dewiswr y garfan genedlaethol: "Mae James Harris wedi gweithio'n galed gyda Rhaglen Perfformiad Lloegr dros y gaeaf, ac wedi cael ei enwi yng ngharfan undydd Lloegr am y tro cyntaf."