Fotuali'i yn gadael y Gweilch

Kahn Fotuali'i Image copyright Getty Images
Image caption Chwaraeodd Fotuali'i am ddau dymor gyda'r Gweilch

Bydd y mewnwr Kahn Fotuali'i yn ymuno gyda chlwb Northampton Saints yn yr haf ar ôl gwrthod cytundeb newydd gyda'r Gweilch.

Ymddangosodd y chwaraewr 30 oed 39 o weithiau mewn dau dymor gyda'r Gweilch, ac roedd ei gytundeb yn dod i ben ar ddiwedd y tymor presennol.

Er iddo gael ei eni yn Seland Newydd, dewisodd Fotuali'i gynrychioli tîm rhyngwladol Samoa, gan ennill 13 cap.

Roedd yn aelod o garfan y Gweilch enillodd bencampwriaeth y Pro12 y tymor diwethaf.

Cyn ei gyfnod ar y Liberty fe chwaraeodd 28 o weithiau i glwb Crusaders yng nghystadleuaeth Super Rugby hemisffer y de.

'Siomedig'

Dywedodd prif swyddog gweithredu'r Gweilch, Andrew Hore: "Yn amlwg rydym yn siomedig i golli chwaraewr o safon Kahn.

"Fe wnaethon ni gynnig yr oeddem yn ei ystyried fel un cystadleuol er mwyn cadw'i wasanaethau, ond yn anffodus mae e wedi dweud wrthym fod ei ddyfodol yn rhywle arall.

"Roedd Kahn yn hapus i aros yma, ond nid oeddem ni'n medru cystadlu gyda'r cynnig cyflog oedd ar gael, ac rydym yn deall yn iawn mai gyrfa fer sydd gan chwaraewr rygbi, ac mae angen iddo roi blaenoriaeth i ddyfodol ei deulu.

"Er bod y newyddion yn siomedig, mae'r penderfyniad cynnar gan Kahn yn ein galluogi ni i symud ymlaen yn bositif fel busnes gyda golwg ar recriwtio chwaraewyr at y tymor nesaf."

Straeon perthnasol