Thomas yn arwain gyda dau gymal i fynd

Geraint Thomas Image copyright Getty Images
Image caption Mae Geraint Thomas yn dal i wisgo crys oren yr arweinydd yn y Tour Down Under

Mae'r seiclwr Geraint Thomas yn parhau i fod pum eiliad ar y blaen yn ras y Tour Down Under yn Awstralia.

Andre Griepel enillodd y pedwerydd cymal fore Gwener gyda Roberto Ferrari a Jonathan Cantwell yn ail a thrydydd.

Llwyddodd y tri i osgoi dwy ddamwain cyn diwedd y cymal - felly hefyd Thomas sy'n aros o flaen Tom Jelte Slager yn y ras gyflawn.

Gyda dau gymal yn weddill, mae'r Cymro yn gobeithio ennill ras fawr gynta'r flwyddyn i Team Sky, a dywedodd:

"Roedd hi'n ddiwrnod o straen oherwydd y gwynt ac roedd hynny ar feddwl pawb.

"Roedd bois y tîm yn wych. Fe wnaethon ni aros yn agos i'r blaen gyda thua 10km yn weddill, ac fe wnaethon nhw fy nghadw i allan o'r trafferthion."

Mae'r pumed cymal ddydd Sadwrn yn cael ei weld fel un allweddol.

Bydd y seiclwyr yn teithio 151.5km, gyda thair lap o gylchdaith o gwmpas McLaren Vale cyn gorffen wrth ddringo Allt Old Willunga, ac mae bonws o ddeg eiliad i'r enillydd.

Straeon perthnasol