Bygythiad streic wrth i gynlluniau llythrennedd a rhifedd newydd gael eu cyhoeddi

Disgybl yn gwneud mathemateg
Image caption Disgybl yn gwneud mathemateg

Mae un o undebau athrawon mwya' Cymru yn bygwth mynd ar streic oherwydd cynlluniau i godi safonau llythrennedd a rhifedd disgyblion.

Dywedodd NUT Cymru nad oedd digon o drafodaeth rhwng Llywodraeth Cymru ac athrawon ynglŷn â'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol.

Ond mae'r llywodraeth yn gwadu hyn.

Yn y cyfamser, me undeb y prifathrawon, yr NAHT, wedi rhoi croeso gofalus i'r cyhoeddiad.

Mae lefel llythrennedd a rhifedd yng Nghymru wedi bod yn bryder i'r llywodraeth ers rhai blynyddoedd.

Mae Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi amlinelliad o'i gynllun i osod safonau cenedlaethol sy'n cynnwys prawf darllen blynyddol a rhaglen gymorth genedlaethol, sy'n werth £7 miliwn, i helpu ysgolion godi safonau llythrennedd a rhifedd yn holl bynciau'r cwricwlwm.

Fe fydd y fframwaith yn dod yn rhan o'r cwricwlwm o fis Medi 2013 ymlaen ac o fis Medi 2014 ymlaen bydd asesiadau yn erbyn y fframwaith yn ofyniad statudol.

Bydd y deunyddiau hyfforddi, a gafodd eu cyhoeddi ddydd Llun ar wefan Dysgu Cymru, yn cefnogi cynllunio cwricwlwm a chynorthwyo athrawon i fonitro cynnydd disgyblion mewn llythrennedd a rhifedd yn erbyn disgwyliadau blynyddol clir ar gyfer disgyblion pump-14 oed.

Amcanion

Mae elfen lythrennedd y fframwaith yn amlinellu lefelau cyrhaeddiad disgwyliedig disgyblion o ran darllen, ysgrifennu a siarad ac mae'r elfen rifedd yn amlinellu'r disgwyliadau ar gyfer datblygu'r gallu i resymu'n rhifol a defnyddio sgiliau rhif, data a mesur.

Yn ôl y llywodraeth, y prif amcanion yw:

- cynorthwyo athrawon pob pwnc i adnabod a chynnig cyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm a hynny wedi ei rannu yn ôl fesul grŵp blwyddyn.

- disgrifio, gyda manylder, disgwyliadau cenedlaethol blynyddol llythrennedd a rhifedd ar gyfer disgyblion 5-14 oed a dilyniant cynnydd disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol.

- cynorthwyo i benderfynu cynnydd mewn llythrennedd a rhifedd a chynnig adroddiadau blynyddol i rieni a neu ofalwyr ar sail asesiadau athrawon fel bod athrawon, disgyblion, a rhieni neu ofalwyr yn gwbl glir sut mae'r disgyblion yn gwella a pha gamau a ddylid eu cymryd nesaf.

Dau brawf

Ochr yn ochr â'r fframwaith, bydd profion darllen a rhifedd yn cael eu cyflwyno.

Bydd pob disgybl ym mlwyddyn 2-9 (neu o saith oed i 14 oed) yn ysgolion Cymru yn gorfod cymryd y ddau brawf fydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg o fis Mai 2013.

Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn defnyddio profion darllen a nifer yn defnyddio rhyw fath o brofion mathemategol neu rifedd.

Mae Hefin Mathias, cyn bennaeth Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, yn dweud bod angen codi safonau yng Nghymru.

"Er bod 'na rywfaint o welliant wedi digwydd, dydy e ddim yn ddigon cyffredinol a chynhwysfawr i sicrhau safonau gofynnol," meddai.

"Wrth gwrs, mae tystiolaeth megis profion Pisa, TGAU, y gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr, yn dangos bod angen i Gymru godi o ran safle."

'Llwyth gwaith'

Dywedodd yr NUT fod y cynlluniau newydd yn cynyddu llwyth gwaith ond mae'r llywodraeth yn gwadu hynny.

Ar raglen y Post Cynta' fore Llun dywedodd Owen Hathaway, Swyddog Polisi NUT Cymru: "Mae'r NUT ar hyn o bryd yn anghydweld â'r llywodraeth ar nifer o bethau, gan gynnwys llwyth gwaith, a rydyn ni'n meddwl bod y math yma o brofion yn mynd i achosi mwy o waith i athrawon - ac yn lle gwella safonau, rydyn ni'n ofni y bydd yn arwain at ostwng safonau."

Er mai streic fydd y cam olaf, dywedodd yr undeb fod yr 13,000 o aelodau yng Nghymru yn barod i weithredu oni bai bod ymateb i'w pryderon.

'Adnodd hollbwysig'

"Mae'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol yn amlinellu disgwyliadau clir, realistig ar gyfer addysgu llythrennedd a rhifedd a bydd yn adnodd hollbwysig er mwyn codi safonau yn gyffredinol," meddai Mr Andrews.

"Bydd y fframwaith yn helpu arweinwyr a rheolwyr ysgolion sefydlu llythrennedd a rhifedd yn holl bynciau'r cwricwlwm a bydd yn helpu pob athro i addysgu'r elfennau hyn.

"Bydd gan ysgolion flwyddyn academaidd gyfan i sefydlu'r fframwaith fel rhan o'u gwaith cynllunio ac addysgu cyn bod yn rhaid asesu cynnydd disgyblion yn ffurfiol yn erbyn y fframwaith."

Dywedodd cyfarwyddwr undeb y prifathrawon, Anna Brychan: "Rydym yn credu bod y fframweithiau llythrennedd a rhifedd gyda'r potensial i fod yn arfau pwerus iawn i helpu disgyblion.

"Maen nhw'n cynnig ffordd fanwl gywir o ran mapio a chynllunio a datblygu eu sgiliau.

'Cyflwyno'

"Ond bydd potensial y fframweithiau newydd ddim ond yn cael ei wireddu os byddan nhw'n cael eu cyflwyno'n iawn.

"I sicrhau hyn bydd yn rhaid lleihau rhan o'r pwysau ar y cwricwlwm ac amser dysgu."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn hapus eu bod wedi ymgynghori digon cyn cyflwyno'r fframwaith.

"Mae'n anodd gweld sut y gallwn ni fod wedi ymgynghori mwy na'r hyn wnaethon ni.

"Felly os yw'r NUT yn honni nad oes digon o gyfle wedi bod i godi pryderon, mae hynny'n anghywir.

"Y gwir amdani yw bod rhieni ac athrawon yn awyddus i weld newid. Maent eisiau gwelliannau i safonau ysgolion ac mae'r fframwaith sy'n cael ei lansio yn mynd i helpu i gyflawni hynny."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.