Cyhuddo Eden Hazard o ymddygiad treisgar ar ôl cicio bachgen

  • 25 Ionawr 2013
Cafodd Eden Hazard ei anfon oddi ar y cae yn y gêm nos Fercher
Cafodd Eden Hazard ei anfon oddi ar y cae yn y gêm nos Fercher

Mae chwaraewr pêl-droed Chelsea, Eden Hazard, wedi cael ei gyhuddo gan y Gymdeithas Bêl-Droed o ymddygiad treisgar ar ôl cicio un o'r bechgyn sy'n gofalu am y peli i Glwb Abertawe.

Mae chwaraewr canol cae Gwlad Begl yn wynebu gwaharddiad o dair gêm ar ôl iddo dderbyn cerdyn coch yn y gêm yn erbyn Yr Elyrch nos Fercher.

Dyma oedd ail gymal rownd gynderfynol Cwpan Capital One gydag Abertawe yn ennill o 2-0 dros y ddau gymal.

Cafodd Hazard, 22 oed, ei anfon oddi ar y cae ar ôl y digwyddiad gyda Charlie Morgan, 17 oed.

Mae gan Hazard tan 6pm ddydd Mawrth i ymateb i'r cyhuddiad.

Dywedodd y Gymdeithas y bydd yn atgoffa pob clwb am "eu cyfrifoldeb i sicrhau bod y bechgyn ifanc a swyddogion eraill sydd o gwmpas y maes yn ymddwyn yn briodol ar bob achlysur".

Roedd Hazard yn ceisio casglu'r bêl gan Charlie a oedd wedi syrthio drosti gyda 12 munud yn weddill o'r gêm.

Ar y pryd roedd hi'n 0-0 gyda Chelsea angen o leiaf ddwy gôl i sicrhau amser ychwanegol.

Gorffennodd y gêm yn ddi-sgôr gan olygu mai Abertawe enillodd a sicrhau eu lle yn y rownd derfynol yn erbyn Bradford yn Wembley ar Chwefror 24.

Fe wnaeth Hazard ymddiheuro i'r bachgen wedi'r gêm.

Dywedodd Heddlu'r De eu bod wedi derbyn nifer o alwadau gan aelodau o'r cyhoedd yn ymwneud â'r digwyddiad, ond ni fyddan nhw'n cymryd camau pellach.