Cwpan LV: Y Dreigiau yn curo'r Gweilch

Ieuan Jones o'r Dreigiau yn herio Jonathan Thomas o'r Gweilch Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Ieuan Jones o'r Dreigiau yn herio Jonathan Thomas o'r Gweilch

Dreigiau 18-14 Gweilch

Steffan Jones gafodd holl bwyntiau'r Dreigiau wrth iddyn nhw guro'r Gweilch yng Nghwpan LV.

Roedd ei gicio yn syth a chywir ac yn hwb i glwb sy'n wynebu problemau oddi ar y cae.

Doedd 'na ddim cais i'r tîm cartref mewn gem gafodd ei chwarae mewn amgylchiadau anodd o ran y tywydd.

Yr ymwelwyr gafodd unig gais y gêm, Jonathan Thomas yn cael y cais wedi awr o chwarae.

Dyma'r unig dro i'r Gweilch fynd ar y blaen yn y gêm.

Gyda nifer o chwaraewyr profiadol Y Gweilch yn absennol oherwydd anafiadau neu ar ddyletswydd ryngwladol roedd yr hanner cyntaf yn galondid i'r tîm rheoli bod y tîm dibrofiad wedi llwyddo i orffen yr hanner yn gyfartal 9-9.

Fe ddaeth y Dreigiau yn ôl yn yr ail hanner ar ôl deugain munud siomedig.

Cafodd capten Y Gweilch, Rhys Webb, gyfnod yn y gell gosb yn yr ail hanner ar ôl i un o bob tîm dreulio cyfnod yno yn yr hanner cyntaf.

Ond mae'r canlyniad yn golygu bod y ddau dîm allan o'r gwpan eleni.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.