Ansicrwydd am ddyfodol Graham

Danny Graham Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Danny Graham wedi bod yn eilydd am y rhan fwya' o'r tymor

Mae cadeirydd clwb pêl droed Abertawe wedi wfftio awgrymiadau bod yr ymosodwr Danny Graham wedi gofyn am gael gadael yr Elyrch.

Bu adroddiadau fod Graham eisiau gadael oherwydd "rhesymau personol".

Ond mae Huw Jenkins wedi gwadu'r awgrymiadau fod yr ymosodwr wedi cyflwyno cais i ymuno â chlwb arall wrth i'r Elyrch baratoi ar gyfer eu gêm oddi cartref yn yr Uwchgynghrair yn erbyn Sunderland nos Fawrth.

Mae dyfodol y chwaraewr 27 oed wedi bod yn destun amheuaeth yn ystod y cyfnod trosglwyddo ym mis Ionawr.

Rhwystredig

Graham sgoriodd ail gôl Abertawe yn eu buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Chelsea yn Stamford Bridge yng nghymal cyntaf rownd gynderfynol Cwpan Capital One.

Wedi bod ar y fainc am y rhan fwyaf o'r tymor, mae Graham wedi sgorio saith gôl mewn 22 gêm y tymor hwn.

Mae o wedi cyfadde' ei fod yn rhwystredig gyda'r ffaith nad yw'n cael cychwyn nifer o gemau ar ôl bod yn un o'r chwaraewyr cyson o dan y cyn reolwr Brendan Rodgers, gan sgorio 14 gôl mewn 39 gêm.

Dywedodd Mr Jenkins wrth BBC Cymru: "Does dim sail o gwbl i'r sïon hyn," meddai.

Yn gynharach ym mis Ionawr, derbyniodd Abertawe geisiadau gan Sunderland a Norwich am Graham.

Dywedodd rheolwr Abertawe, Michael Laudrup, ei fod yn hapus i Graham aros gyda'r Elyrch, gan ychwanegu nad oedd yn disgwyl iddo wneud cytundeb ag unrhyw glwb cyn y cyfnod trosglwyddo ddod i ben ar Ionawr 31.

"Os bydd e'n dod ataf i a gofyn i gael gadael y clwb - a'n bod ni'n derbyn cynnig da iawn - fe fydd yn rhaid i ni ystyried y cynnig hwnnw ond mae'n fwy na phosib y bydd gennym yr un garfan ar Chwefror 1," meddai Laudrup.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.