Pledio'n euog i drafod £130,000

Llys (cyffredinol)
Image caption Cyn i'r rheithgor dyngu llw newidiodd ei phle

Yn Llys y Goron Abertawe mae cyn isbostfeistres wedi pledio'n euog i gyhuddiad o drafod £130,000 oedd wedi eu dwyn.

Roedd Lorraine Johnson, 54 oed o Landybie, wedi gwadu'r cyhuddiad.

Cyn i'r rheithgor dyngu llw newidiodd ei phle a chyfadde' iddi gael neu ddefnyddio £130,976 rhwng Tachwedd 27, 2005, a Thachwedd 1, 2007, gan wybod bod yr arian wedi ei ddwyn.

Cafodd fechnïaeth ond clywodd fod y risg o fynd i garchar yn uchel.

Eisoes mae ei gŵr, Anthony Stewart Johnson, 63 oed, wedi pledio'n euog i gyhuddiad o ffugio a dwyn yr arian oddi wrth Chelliah Yoganathan, perchennog cartre' gofal yn Llanelli.

Mae wedi pledio'n euog i gyhuddiad o ddefnyddio eiddo troseddol, yr arian, a thri chyhuddiad o ffugio bonion sieciau.

Dywedodd y barnwr, Mr Cofiadur David Miller, y byddai'r ddau'n cael eu dedfydu ar ddyddiad i'w bennu.