Alcohol: Lefel marwolaeth menywod yn uwch

Menyw yn yfed gwin Image copyright PA
Image caption Dywedodd yr adroddiad fod goryfed yn achosi 1.5% o'r holl farwolaethau yng Nghymru a Lloegr

Mae menywod yng Nghymru yn fwy tebygol o farw oherwydd achosion sy'n gysylltiedig ag alcohol na menywod yn Lloegr, yn ôl ystadegau.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod 9.5 menyw ymhob 100,000 yn marw oherwydd effeithiau alcohol yng Nghymru tra bod 7.6 yn Lloegr.

Yn ôl yr adroddiad, mae nifer y marwolaethau oherwydd effaith alcohol ymysg dynion wedi gostwng.

Ond mae dynion o hyd ddwywaith yn fwy tebygol o farw yn sgil effaith alcohol na menywod yn y Deyrnas Unedig.

Yn ôl y swyddfa, roedd 66% o'r 8,748 o bobl fu farw oherwydd effaith alcohol yn ddynion yn 2011.

Dywedodd yr adroddiad fod goryfed yn achosi 1.5% o'r holl farwolaethau yng Nghymru a Lloegr.

Mae achosion marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yn cynnwys clefyd yr afu a gwenwyno alcohol.

Dywedodd Eric Appleby, prif weithredwr yr elusen Alcohol Concern: "Bydden ni'n ystyried hwn yn argyfwng pe bai pobl yn marw am resymau eraill - ac yn cymryd camau brys i atal y marwolaethau."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.