Athro yn cadw swydd ar ôl cymryd cyffuriau a gyrru

Bydd athro gafodd ei ddal yn gyrru ar ôl smygu canabis yn cadw ei swydd os bydd yn mynychu cwrs ymwybyddiaeth o gyffuriau.

Cafwyd Ciaran Lloyd, 29 oed o Ysgol Gyfun Bryn Tawe, yn euog o gymryd cyffuriau a gyrru a methu â stopio yn dilyn damwain ym Mehefin 2011.

Dywedodd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru y byddai'n rhaid i Mr Lloyd o Abertawe dalu am y cwrs.

Penderfynodd y panel fod troseddau'r athro dylunio a thechnoleg yn "berthnasol" i'w swydd.

Dywedodd cadeirydd y panel, Sheila Drayton: "Rydym yn derbyn ei fod yn difaru oherwydd yr hyn wnaeth e."

Clywodd y panel fod Mr Lloyd wedi cyfaddef defnyddio canabis dros gyfnod o dri mis.

Dywedodd y pwyllgor y byddai'n rhaid iddo dalu a mynd i'r cwrs o fewn 12 mis os yw am ddal i fod yn athro cofrestredig.