Tân yn lladd 150 o golomennod yn Nhreherbert

Colomendy gafodd ei ddifrodi gan dân yn Nhreherbert
Image caption Mae'r perchenog wedi bod yn rasio colomennod ers 23 mlynedd

Mae diffoddwyr yn credu bod tân wnaeth ladd dwsinau o golomennod rasio yn Y Rhondda wedi ei ddechrau'n fwriadol.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i'r tân yn y colomendy ym Mlaen-cwm, Treherbert toc wedi 5:00am ddydd Mercher.

Dywedodd perchennog y colomendy, Allan Smith, fod tua 150 o adar wedi bod y tu mewn i'r adeilad 10 meter wrth 6 metr.

Mae Mr Smith wedi bod yn rasio colomennod ers 23 mlynedd.

Dywedodd fod rhai ohonynt yn werth £1,000 yr un.

Ychwanegodd ei fod wedi adeiladu'r colomendy o bren haenog tua phum mlynedd yn ôl oherwydd ei fod yn meddwl na fyddai'r pren hynny'n llosgi'n hawdd.

Mae'r gwasanaeth tân wedi lansio ymchwiliad ynghylch beth achosodd y tân.