Cymru i gadw'r TGAU a Safon Uwch

Exam paper
Image caption Dywedodd adolygiad y dylai Cymru gadw'r TGAU fel rhan o Fagloriaeth Gymreig ddiwygiedig

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn cadw TGAU a Safon Uwch fel prif gymwysterau addysg uwchradd.

Daeth penderfyniad gweinidogion Cymru yn dilyn adolygiad yn sgil pryderon am allu disgyblion TGAU wrth ddarllen ysgrifennu a mathemateg.

Mae'r penderfyniad yn golygu y bydd mwy o wahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr lle mae'r TGAU yn cael ei ddiddymu'n raddol mewn rhai pynciau craidd.

Bydd y cymwysterau yng Nghymru yn rhedeg ochr yn ochr â'r Fagloriaeth Gymreig ar ei ffurf ddiwygiedig.

Bydd gweinidogion hefyd yn derbyn agymhellion i greu TGAU newydd mewn Cymraeg Iaith Gyntaf a Iaith Saesneg, a dwy newydd mewn rhifedd a mathemateg.

Bydd y cymwysterau newydd yn cael eu cyflwyno yng Nghymru ym Medi 2015.

'Cyfathrebu'

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau Jeff Cuthbert ei fod yn gwneud yr hyn fyddai er lles disgyblion Cymru a'r economi.

Ychwanegodd y gallai hynny olygu gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr.

"Byddwn yn cadw TGAU a Safon Uwch," meddai Mr Cuthbert wrth Aelodau Cynulliad yn y Senedd.

"Pan fydd angen fe fyddwn yn cryfhau ac yn addasu'r rhain, ond yn y pen draw mae gennym hyder yn y cymwysterau yma sydd wedi hen ennill eu plwy', ac sy'n cael eu cydnabod ar draws y byd."

Dywedodd hefyd y byddai strategaeth gyfathrebu ar draws y DU "er mwyn codi proffil cymwysterau yng Nghymru", yn enwedig gyda chyflogwyr a phrifysgolion yn Lloegr.

Mae Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon hyd yma wedi rhannu'r un sustem o gymwysterau Safon Uwch a ThGAU, ond mae gan yr Alban ei chymwysterau ei hun.

'Sefydlogrwydd'

Dywedodd Philip Dixon o undeb athrawon ATL Cymru fod yr ymrwymiad i TGAU a Safon Uwch "yn darparu sefydlogrwydd i'n pobl ifanc gan eu galluogi i astudio ar gyfer cymwysterau sydd wedi ymsefydlu".

"Fyddan nhw ddim yn cael eu defnyddio fel testun rhyw arbrawf fel y disgyblion dros y ffin yn Lloegr," meddai.

Yn yr adolygiad a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd dywedodd yr awdur, Huw Evans, y dylai disgyblion Cymru barhau i sefyll arholiadau TGAU a Safon Uwch, ond fel rhan o Fagloriaeth Gymreig ddiwygiedig.

Roedd ei adroddiad yn dweud nad oedd rhai cyflogwyr a phrifysgolion yn ystyried bod gradd C mewn Saesneg, Cymraeg a Mathemateg yn ddangosydd dibynadwy o sgiliau llythrennedd a rhifedd.

Yn Lloegr, bydd y Fagloriaeth Saesneg yn cymryd lle'r TGAU, ac fe fyddan nhw'n cael eu rhoi ar sail un arholiad ar ddiwedd tymor.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dechrau gweithredu un arall o argymhellion Adolygiad Evans i sefydlu corff newydd i reoleiddio a gosod cymwysterau.

'Hyder'

Dywedodd Plaid Cymru bod rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y cymwysterau sy'n cael eu cynnig yng Nghymru yn parhau i fod yn berthnasol i weddill y byd.

Dywedodd eu llefarydd ar addysg, Simon Thomas AC: "Efallai na fydd dysgwyr yn croesawu gorfod sefyll dau arholiad mathemateg, ond mae hyn yn dangos y ffordd ymlaen wrth geisio gwella cyrrhaeddiad."

Angela Burns AC yw llefarydd y Ceidwadwyr ar addysg a dywedodd: "Mae'n rhaid i'r argymhellion am ddatblygu cymwysterau i Gymru yn unig sicrhau hyder cyflogwyr a phrifysgolion y tu allan i Gymru, gwledydd eraill y DU a thu hwnt i hynny."

Mynnodd llefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts AC, na ddylid brysio'r newidiadau, ac "o dderbyn parhad y Safon Uwch, bod perthynas adeiladol yn cael ei chadw ar draws y tair gwlad (yn y DU)".

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.