Rhybudd am ansicrwydd am Ewrop

Port Talbot
Image caption Ym mis Tachwedd cyhoeddodd cwmni Tata y byddai bron 600 o swyddi yn diflannu yn ne Cymru.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud y gallai ansicrwydd am rôl Prydain yn Ewrop effeithio ar ddyfodol gwaith dur Port Talbot.

Ym mis Tachwedd cyhoeddodd cwmni Tata y byddai bron 600 o swyddi yn diflannu yn ne Cymru.

Yn y Senedd yng Nghaerdydd cafodd Mr Jones ei holi beth fyddai'r help ar gael i weithwyr fyddai'n colli eu swyddi.

Dywedodd nad oedd yn glir eto a fyddai'r mwyafrif yn cael diswyddiadau gwirfoddol.

Ond canmolodd fuddsoddi Tata yng ngwaith dur Port Talbot, gan gynnwys y ffwrnais newydd ar gost o £185m.

Beirniadodd awgrym David Cameron y dylid cynnal refferendwm ynglŷn ag aelodaeth Prydain yn Ewrop.

"Heb y ffwrnes, ni fyddai llawer o ddyfodol yn y gwaith ym Mhort Talbot," meddai.

"A dyw sôn am y posibilrwydd o adael Ewrop ddim yn helpu'r achos o gwbl."

8,000

Yng Nghymru mae Tata'n cyflogi 8,000.

Dywedodd Mr Jones fod y cysylltiadau â phenaethiaid y cwmni yn India yn gryf iawn a'i fod wedi bod ar daith fasnach yno llynedd.

Ond dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R T Davies, fod angen i Mr Jones hybu allforion yn fwy.

"Dylai teithiau masnach dynnu sylw at y doniau ar gael yng Nghymru.

"Dylai'r prif weinidog roi sicrwydd fod y teithiau masnach yn arwain at wir fuddsoddi yng Nghymru ..."

Straeon perthnasol