Gwahardd Bellamy rhag gyrru

Craig Bellamy
Image caption Roedd gan cyn-gapten Cymru naw o bwyntiau ar ei drwydded yrru'n barod.

Mae'r pêl-droediwr Craig Bellamy wedi cael ei wahardd rhag gyrru am chwe mis ar ôl cael ei ddal yn gyrru'n rhy gyflym ar gyrion Lerpwl.

Roedd gan cyn-gapten Cymru naw o bwyntiau ar ei drwydded yrru'n barod.

Bydd rhaid iddo dalu dirwy o £900 a chostau o £400.

Nid oedd Bellamy, 33 oed, yn bresennol yn Llys Ynadon Lerpwl.