Cwpan Cymru: Yr enwau o'r het

Cwpan Cymru Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Pwy fydd yn codi Cwpan Cymru eleni?

Daeth yr enwau o'r het ar gyfer rownd wyth olaf Cwpan Cymru, ac fe fydd o leia' un tîm o'r tu allan i'r Uwchgynghrair yn y rownd gynderfynol.

Fe fydd clybiau o'r Uwchgynghrair yn wynebu ei gilydd mewn dwy o'r gemau.

Fe gafodd tair o gemau'r bedwaredd rownd eu gohirio oherwydd y tywydd.

Os fydd y deiliaid - Y Seintiau Newydd - yn llwyddo i oresgyn Y Rhyl yn y bedwaredd rownd fe fyddan nhw'n wynebu taith i Hwlffordd yn y rownd nesaf.

Caerfyrddin yn erbyn Prestatyn yw'r unig gêm sy'n gyflawn hyd yma, ac fe fydd y gemau'n cael eu chwarae ar benwythnos Mawrth 1,2 neu 3.

Cwpan Cymru - Rownd yr wyth olaf :-

Bangor v. Y Drenewydd neu Airbus UK Brychdyn;

Caerau-Trelái neu'r Fflint v. Y Barri;

Caerfyrddin v. Prestatyn;

Hwlffordd v. Y Seintiau Newydd neu'r Rhyl.

Straeon perthnasol