Cyfrifiad: Cadarnleoedd yn crebachu

Cefn gwlad
Nid oedd un ward yn Sir Gaerfyrddin na Cheredigion lle oedd dros 70% yn siarad yr iaith yn 2011.

Mae ystadegau lleol Cyfrifiad 2011 yn dangos bod cadarnleoedd y Gymraeg yn crebachu.

Yn 2001 roedd 59 o wardiau lle oedd mwy na 70% o bobl yn siarad yr iaith ond roedd hyn wedi gostwng i 49 erbyn 2011.

Mae'r wardiau hyn yn y gogledd, un yng Nghonwy a'r gweddill yng Ngwynedd ac Ynys Môn.

Yr adran etholiadol lle roedd y nifer fwya' dros dair oed yn siarad Cymraeg oedd Llanrug yng Ngwynedd (87.8%).

Sir Gâr

Nid oedd un ward yn Sir Gaerfyrddin na Cheredigion lle oedd dros 70% yn siarad yr iaith yn 2011.

Ymysyg y cymunedau sydd wedi gostwng o dan 70% yn Sir Gaerfyrddin mae Pontyberem (68.8%) a Phen-y-groes (65.6%).

Mae rhai sosioieithyddwyr a chynllunwyr iaith wedi dweud bod trothwy o 70% yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod cymuned yn gynaliadwy.

Bu gostyngiad hefyd yn nifer y wardiau trwy Gymru lle mae dros hanner y boblogaeth yn siarad Cymraeg - o 192 (22% o holl wardiau Cymru) i 157 (18%) erbyn 2011.

Meri Huws
Comisiynydd: Y canlyniadau'n 'her i weithredu'

Ond yn rhannau o Sir Fynwy, mae cynnydd wedi bod yn nifer y wardiau lle mae mwy na 10% o'r boblogaeth yn siarad yr iaith.

Datgelwyd ym mis Rhagfyr fod 19% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg yng Nghymru yn 2011, o'i gymharu â 21% yn 2001.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, fod y canlyniadau diweddara'n "her i weithredu".

'Oblygiadau'

Fe fyddai'n sefydlu Arsyllfa i graffu ar oblygiadau polisïau a chynlluniau fyddai'n effeithio ar gymunedau a siaradwyr Cymraeg.

Roedd polisi economaidd, gwaith a thai yn effeithio ar gynaliadwyedd cymunedau, meddai.

"Nod yr Arsyllfa yw datblygu canllawiau ac argymhellion i'w cyflwyno i wneuthurwyr polisi fel y gallant weithredu'n gadarnhaol ac ymarferol mewn perthynas â'r Gymraeg.

"Bydd yr opsiynau polisi y byddwn yn eu cyflwyno yn rhai strategol a radical a byddant wedi eu seilio ar drafodaeth ddinesig agored a thystiolaeth gadarn.

"Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn tynnu ynghyd yr wybodaeth ac ymchwil sydd eisoes ar gael, ac yn gweithio tuag at gynhyrchu a chomisiynu rhagor o ymchwil yn y maes.

"Byddwn yn edrych ar enghreifftiau o wledydd tramor ac yn cywain barn arbenigwyr mewn amrywiol feysydd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen gwneud mwy i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.

"Mae ein Strategaeth Iaith yn nodi chwe maes y mae angen canolbwyntio arnynt er mwyn sicrhau cynaliadwyedd yr iaith.

"Byddwn yn defnyddio canlyniadau'r Cyfrifiad i lywio ein gwaith ar yr iaith Gymraeg, nawr ac yn y dyfodol, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phawb sydd â diddordeb yn nyfodol yr iaith Gymraeg er mwyn sicrhau ffyniant hirdymor yr iaith."

'Pryder mawr'

Dywedodd llefarydd yr Iaith Gymraeg y Ceidwadwyr, Suzy Davies AC: "Mae'r rhain yn ffigyrau siomedig sy'n dangos dirywiad o ran y gallu i siarad, ysgrifennu a darllen Cymraeg ac mae hwn yn codi amheuon ynghylch strategaeth iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru.

"Dylai strategaeth i gefnogi a meithrin yr iaith Gymraeg yn y dyfodol gydnabod fod cenhedlaeth o bobl ifanc wedi astudio'r Gymraeg yn yr ysgol ond nad ydynt yn defnyddio eu sgiliau y tu allan i'r ystafell ddosbarth a dydyn nhw ddim yn ystyried eu hunain fel siaradwyr Cymraeg.

"Mae'n rhaid i'r ffigyrau hyn gael eu defnyddio i hybu manteision a buddion dysgu a siarad Cymraeg gan gynnwys y rheiny yn y farchnad gwaith."

Iaith Pawb

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: "Nid yw'r targedau gafodd eu gosod gan Lywodraeth Cymru yn Iaith Pawb wedi cael eu cymryd o ddifri a does dim digon o waith yn cael ei wneud i gynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol.

"Mae'n rhaid inni gael trafodaeth ddifrifol ynghylch dyfodol yr iaith Gymraeg a chymunedau Cymraeg.

"Mae'r iaith Gymraeg yn berchen i bawb yng Nghymru ac mae'n rhaid i ni gyd chwarae rhan i adfywio'r iaith."

Wrth ymateb i'r ystadegau a gyhoeddwyd ddydd Mercher, dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Wrth reswm, mae'r canlyniadau hyn yn destun pryder mawr, yn enwedig y sefyllfa yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, lle nad oes un gymuned lle mae dros 70% yn siarad Cymraeg bellach.

"Mae cymunedau o'r fath yn gwbl hanfodol i'r iaith, ac mae'r dystiolaeth ryngwladol yn gwbl eglur yn hynny o beth.

"Mae argyfwng yn wynebu'r iaith a'i chymunedau, ac mae angen i'r Llywodraeth roi polisïau newydd ar waith er mwyn sicrhau bod y Gymraeg a'i chymunedau yn ffynnu."