114 o swyddi yn y fantol

Warws Dewhirst
Agorodd warws Dewhirst yng Nghapel Hendre ger Rhydaman yn 1997

Mae 114 o swyddi dan fygythiad mewn warws yn Sir Gaerfyrddin sy'n storio dillad i gwmni Marks and Spencer.

Cwmni Dewhirst sy'n berchen ar y warws yng Nghapel Hendre ger Rhydaman ac mae cynnyrch yn cael ei wneud dramor, yn cael eu storio yno cyn cael ei dosbarthu i siopau.

Fe fydd cyfnod ymgynghori o 90 diwrnod yn dechrau gyda'r gweithlu ddydd Gwener ond dywedodd Dewhirst na fyddai swyddi'n mynd tan fis Hydref.

Mewn datganiad dywedodd Marks and Spencer na fyddai'n briodol gwneud sylw ar hyn o bryd.

Chwilio am brynwr

Dywedodd Paul Hollins, cyfarwyddwr gweithredoedd adran dillad merched Dewhirst, fod rhaid newid gan nad oedd Marks and Spencer angen y warws bellach i storio'u cynnyrch.

Ond ychwanegodd bod y cwmni yn chwilio am fusnesau eraill i gymryd lle Marks er mwyn ceisio osgoi diswyddiadau.

"Rydym yn dechrau'r broses ymgynghori cyn gynted â phosib er mwyn ceisio canfod cwmni arall sydd angen adnodd storio," meddai.

Agorodd y warws yn 1997 ond daeth rhybudd yr haf diwethaf fod bygythiad i swyddi.

Ar un cyfnod roedd gan gwmni Dewhirst bum ffatri cynhyrchu dillad yng Nghymru ac yn cyflogi tua 1,000 o bobl.

Angen cymorth

Dywedodd Jonathan Edwards AS a Rhodri Glyn Thomas AC o Blaid Cymru fod angen cymorth ar y busnes i ddod o hyd i brynwr am safle Capel Hendre.

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd y ddau: "Mae ein swyddfa wedi siarad gyda chyfarwyddwr Dewhirst ac mae'n awyddus i hybu'r adnodd a chanfod prynwr er mwyn cadw dros 100 o swyddi yno a chadw'r lle yn gweithio.

"Mae'r warws yn ddelfrydol ar gyfer cwmnïau newydd a rhai sy'n datblygu, yn enwedig cwmnïau ar-lein sy'n chwilio am storfa ddillad mewn warws arbenigol.

"Mae Capel Hendre yn lleoliad perffaith i'r busnes, gyda mynediad hawdd i'r brif rwydwaith traffyrdd a thaith agos i'r porthladdoedd er mwyn allforio i Iwerddon.

"Yn y cyfamser, rydym wedi ysgrifennu at Weinidog Busnes Llywodraeth Cymru a'r cyngor sir ac wedi galw arnyn nhw i gynnig cefnogaeth lawn i sicrhau dyfodol yr adnodd, ac i warchod swyddi yn yr ardal."