Graham yn gadael Abertawe

Danny Graham Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Daw'r trosglwyddo ar ddiwedd cyfnod o ddyfalu ei ddyfodol Danny Graham

Daeth cadarnhad bod clwb pêl-droed Abertawe wedi gwerthu'r ymosodwr Danny Graham i glwb Sunderland.

Deellir bod y chwaraewr wedi arwyddo cytundeb tair blynedd a hanner gyda'r clwb yng ngogledd-ddwyrain Lloegr.

Dywedodd llefarydd ar ran Sunderland eu bod wedi talu £5 miliwn.

Daw'r trosglwyddo ar ddiwedd cyfnod o ddyfalu am ddyfodol Graham sy'n 27 oed.

Y gred oedd nad oedd Abertawe yn barod i adael iddo fynd tan iddyn nhw sicrhau ymosodwr arall yn ei le ond hyd yma does dim sôn am chwaraewr newydd yn dod i'r Liberty.

Roedd rhywfaint o amheuaeth beth fyddai'r croeso i Graham - fel bachgen ifanc o'r ardal roedd yn cefnogi gelynion pennaf Sunderland, Newcastle United.

Bydd y ffenest drosglwyddo yn cau am 11:00pm nos Iau - cyn hynny mae modd i Abertawe gael chwaraewr newydd yn lle Graham.

Graham yw'r pedwerydd chwaraewr i adael y Liberty dros yr wythnos ddiwethaf. Aeth Leroy Lita - ymosodwr arall - ar fenthyg i Sheffield Wednesday; aeth Ashley Richards, sydd wedi cael ei enwi yng ngharfan Cymru i wynebu Awstria ddydd Mercher, ar fenthyg i Crystal Palace; gadawodd cyn chwaraewr Wrecsam Curtis Obeng am gyfnod ar fenthyg gyda chlwb Dinas Efrog.

Yn gynharach yn y mis, gadawodd Jamie Proctor y clwb ar gytundeb parhaol gyda chlwb Crawley.

Straeon perthnasol