Achos Siddiqi: Rheithgor yn ystyried

Image caption Mae Jason Richards a Ben Hope yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn

Mae'r rheithgor yn achos dau ddyn sy'n cael eu cyhuddo o lofruddio llanc 17 oed yng Nghaerdydd tair blynedd yn ôl wedi dechrau ystyried eu dyfarniad.

Mae Ben Hope, 39 oed a Jason Richards, 38 oed, ill dau o Gaerdydd, yn gwadu trywanu Aamir Siddiqi wrth garreg drws ei gartre yn ardal y Rhath, Caerdydd.

Maen nhw hefyd yn gwadu cyhuddiad o geisio llofruddio'i rieni.

Mae'r erlyniad wedi cyhuddo'r ddau ddiffynnydd o "anallu syfrdanol" wrth gael eu talu i ladd y person anghywir.

Clywodd Llys y Goron Abertawe mai'r dyn oedd i fod gael ei ladd oedd tad pedwar o blant oedd yn byw yn agos i Aamir Siddiqi a'i deulu.

Mae'r achos yn parhau.

Straeon perthnasol