11 o weithwyr y diwydiant adeiladu 'ar restr wahardd'

Safle adeiladu

Roedd o leiaf 111 o weithwyr o Gymru ar restr wahardd anghyfreithlon oedd yn ymwneud â chefndir miloedd o weithwyr yn y diwydiant adeiladu yn y DU.

Dim ond enwau 11 o bobl o Gymru ar y restr wahardd oedd yn hysbys cyn i ymchwiliad gan y BBC ddatgelu bod y rhif yn llawer uwch.

Nid yw'r rhan fwyaf o bobl sydd ar y restr wahardd yn gwybod fod gwybodaeth bersonol amdanynt wedi ei chasglu.

Canfu'r rhestr am bobl â chysylltiadau ag undebau a grwpiau ymgyrchu gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

'Creu helynt'

Yn 2009 canfu ymchwiliad yr ICO gofrestr Y Gymdeithas Ymgynghori oedd yn cynnwys gwybodaeth am 3,212 o bobl.

Bu rhai o gwmnïau adeiladu mwyaf y DU yn talu tanysgrifiad o £2.20 i archwilio cefndir gweithwyr posib.

Roedd y restr wahardd yn cynnwys cysylltiadau ag undebau llafur gan gynnig sylwadau am "bobl sy'n creu helynt", "pobl â chymhelliad gwleidyddol cryf" ac yn nodi os oeddent wedi codi pryderon ynghylch iechyd a diogelwch yn y gweithle.

Dywedwyd wrth Ren Davies, cyn friciwr a swyddog undeb o Fae Colwyn, fod gwybodaeth bersonol amdano ar gronfa ddata'r restr wahardd.

Dywedodd Mr Davies ei fod wedi ei chael hi'n anodd cael gwaith gan honni wrth raglen BBC Cymru 'The Wales Report' fod y rhestr wedi cael ei defnyddio i'w hatal rhag gweithio.

Ychwanegodd fod y rhestr wedi distrywio bywydau nifer o bobl.

"Mae hyn wedi cael effaith sylweddol ar fywydau nifer o bobl ac mae rhai pobl wedi lladd eu hunain am eu bod yn meddwl nad oedd ganddynt unrhyw obaith."

'Dim rheswm priodol'

Bu'n rhaid i'r Gymdeithas Ymgynghori, gafodd ei rhedeg gan Ian Kerr, dalu dirwy o £5,000 a chafodd ei chau gan yr IOC am beidio rhoi gwybod ei bod yn gymdeithas oedd yn rheoli data.

Dywed undebau llafur a grwpiau hawliau dynol fod yr arfer o greu rhestrau gwahardd yn dal i fodoli.

Dywedodd Corinna Ferguson, swyddog cyfreithiol y sefydliad hawliau dynol, Liberty: "Roedd y rhain yn bobl wnaeth godi pryderon iechyd a diogelwch difrifol ond doedd hyn ddim yn rheswm priodol i atal rhywun rhag cael ei gyflogi.

"Does dim cosbau wedi bod mewn lle i rwystro cwmnïau rhag gwneud hyn yn y gorffennol felly fyddwn i ddim yn cael fy synnu pe baen nhw'n meddwl y gallan nhw osgoi cael eu cosbi."

'Amheus iawn'

Ond dywedodd Grŵp Contractwyr y DU (UKCG), sy'n cynrychioli rhai o'r cwmnïau sy'n ynghlwm â'r mater fod yr honiadau yn rhai hanesyddol a doedd 'na ddim tystiolaeth fod y restr wahardd yn dal i fodoli.

Dywedodd yr UKCG mewn datganiad: "Mae ein haelodau yn cymryd materion iechyd a diogelwch o ddifrif ac ni fydden nhw'n gwahaniaethu yn erbyn gweithwyr am godi pryderon iechyd a diogelwch.

"Yn wir, rydym yn annog gweithwyr i fod yn rhagweithiol a dyna un rheswm y mae perfformiad iechyd a diogelwch y diwydiant wedi gwella'n sylweddol yn ystod y degawd diwethaf."

Bydd Gweinidog Busnes Llywodraeth y DU, Vince Cable, yn cyfarfod â'r Comisiynydd Gwybodaeth ond dywedodd ni fyddai'n cymryd camau newydd os na fydd tystiolaeth newydd yn dod i'r fei.

Dywedodd AC y Blaid Lafur, Vaughan Gething ei fod yn "amheus iawn" fod y restr wahardd yn achos unigryw.

"Roedd hyn yn drosedd anferthol yn erbyn miloedd ar filoedd o weithwyr heb unrhyw gyfiawnhad," meddai.