S4C: 'Angen sicrwydd ar ôl 2017'

Alun Cairns Image copyright Arall
Image caption Dywedodd Mr Cairns ei fod yn gwerthfawrogi fod annibyniaeth S4C wedi ei diogelu

Mae Aelod Seneddol Bro Morgannwg wedi galw am sicrhau cyllid i S4C ar ôl 2017.

Roedd Alun Cairns mewn trafodaeth arbennig yn Neuadd San Steffan yn Llundain.

Y BBC drwy ffi'r drwydded fydd yn ariannu'r sianel i raddau helaeth o fis Ebrill ymlaen tan 2017.

Bydd grant ychwanegol o £7m oddi wrth Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwareon San Steffan.

Dywedodd Mr Cairns ei fod yn gwerthfawrogi fod annibyniaeth S4C wedi ei diogelu mewn cytundeb ag Ymddiriedolaeth y BBC yr wythnos hon.

Roedd y £7m oddi wrth San Steffan nid yn unig yn bwysig "yn ariannol," meddai, "ond yn atal y BBC rhag meddu ar fonopoli llwyr wrth ariannu a chomisiynu rhaglenni."

'Rheolau'

"Dwi'n sylweddoli bod rheolau'r Trysorlys yn clymu dwylo'r gweinidog rhag rhoi sicrwydd pendant ond rwy'n gofyn am ateb sy'n dangos ei ymrwymiad e a'i adran i'r sianel."

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Ed Vaizey, eu bod "yn aml wedi pwysleisio eu hymroddiad i wasanaeth teledu Cymraeg cryf ac annibynnol."

Byddai'r cytundeb rhwng S4C a'r BBC, meddai, yn arwain at sefydlogrwydd.

"Dyw'r arian ddim cymaint â'r hyn gafwyd yn y gorffennol ond mae'r swm yn sylweddol."

Dywedodd na allai glymu llywodraeth y dyfodol.

"Rydyn ni am i'r sianel gael ei hariannu'n ddigonol a sicrhau ei dyfodol.

"Yn amlwg o'r drafodaeth heddiw, mae'n sianel ffantastig ac yn dal i fod yn boblogaidd iawn yng Nghymru."

Straeon perthnasol