Dangos crefft y cwiltiwr yn Llangollen

7 Chwefror 2013 Diweddarwyd 07:12 GMT

Arddangosfa ym Mhafiliwn Llangollen yn dangos gwaith cwiltwyr.
Masu gan Deborah Gordon
Mae arddangosfa flynyddol Quiltfest, sydd yn arddangos gwaith cwiltwyr, yn cael ei chynnal yn Llangollen ar hyn o bryd.
Butterfly Dance gan Susan Briscoe
Mae'r arddangosfa'n dangos sgiliau cwiltwyr ac yn ogystal mae gweithdai a chyfleoedd i gwrdd â'r crefftwyr.
Gododdin gan Bethan Hughes
Fel rhan o'r digwyddiad mae grŵp Cwilt Cymru yn arddangos cwiltiau sydd wedi eu hysbrydoli gan themâu Celtaidd.
Trysor o’r Mawn Gwenda Williams
Mae sawl eitem wedi ei ysbrydoli gan chwedlau a chredoau.
Ymerawdwr ac Ymerawdwraig gan Reiko Domon
Mae artist gwadd yr arddangosfa, Reiko Domon, yn cael ei hysbrydoliaeth o Japan.
We are the Champions gan Susan Briscoe
Mae'r cwiltiau i'w gweld ym Mhafiliwn Llangollen ac yn amgueddfa'r dref.
Japanese Circles and Squares Fruit Salad version gan Dot Sherlock
Mae sawl darn lliwgar iawn i'w gweld yn yr arddangosfa.
Oriental Sampler gan Pat Morris
Bydd yr arddangosfa'n gorffen ar Chwefror 15 ym Mhafiliwn Llangollen tra bydd arddangosfa Cwilt Cymru yn Amgueddfa Llangollen yn cau ar Chwefror 19. Bydd arddangosfa Reiko Domon yn yr amgueddfa o Chwefror 20 ymlaen.