Llofruddiaeth: Cyhuddo dyn o Gymru

Fe fydd dyn yn ymddangos yn y llys yn ddiweddarach ar gyhuddiad o lofruddiaeth.

Cafwyd hyd i gorff dyn ar stryd mewn pentref yn Nyfnaint fore Sadwrn.

Dywedodd yr heddlu fod corff y dyn 32 oed wedi cael ei ddarganfod yn ardal Higher Town o bentref Marlborough ger Knightsbridge.

Cafodd Jermain Maguire, 22 oed o dde-ddwyrain Cymru, ei gyhuddo o'r llofruddiaeth ac fe fydd yn ymddangos gerbron ynadon yn Torquay fore Llun.