Pont newydd ar draws Afon Menai?

Pont Britania
Mae Llywodraeth Cymru am leddfu tagfeydd traffig ar Bont Britannia

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd ymgynghorwyr yn cael eu penodi i ystyried opsiynau i leddfu tagfeydd traffig ar y ddwy bont ar draws afon Menai.

Yn ôl y llywodraeth, byddai un opsiwn yn cynnwys adeiladu pont newydd ond y byddai cynigion eraill yn cael eu hystyried.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cynnal ymchwiliadau ac wedi ymgynghori gyda'r cyhoedd ynghylch cynigion i leddfu tagfeydd traffig ar Bont Britannia.

Ychwanegodd y bydd ymgynghorwyr yn cael eu penodi i ddatblygu ar y cynigion hyn yn ddiweddarach eleni.

"Rydym hefyd yn adolygu cyfyngiadau cyflymder ger y bont i helpu i leddfu'r tagfeydd yn ystod oriau brys," meddai.