Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Meddyg o Gymru'n trin Malala

4 Chwefror 2013 Diweddarwyd 19:42 GMT

Mae niwrolegydd o Gymru wedi bod yn siarad am ei rôl mewn llawdriniaeth ar ferch 15 oed o Bacistan, a gafodd ei saethu gan y Taliban.

Roedd Malala Yousufzai wedi ei thargedu am iddi hybu addysg i ferched.

Un o'r ymgynghorwyr fu'n gofalu amdani yn Ysbyty'r Frenhines Elizabeth, Birmingham, oedd Anwen White, sy'n hanu o Gaerfyrddin.

Bu Dewi Llwyd yn ei holi ar raglen y Post Prynhawn ddydd Llun.