Cynnydd yn nifer yr hunan gyflogedig

Adeiladu Image copyright Other
Image caption Mae nifer o bobl yn y diwydiant adeiladu yn hunan gyflogedig

Mae yna gynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy'n hunan gyflogedig yng Nghymru.

Dechreuodd y cynnydd yn 2008 ar ddechrau'r argyfwng ariannol presennol.

Yn ôl y ffigyrau bu cynnydd mwy sylweddol er 2011.

Mae 13% o weithwyr Cymru yn hunan gyflogedig o'i gymharu â'r gyfartaledd o 14% ar gyfer y Deyrnas Unedig.

Mae'r rhan fwyaf o weithwyr hunan gyflogedig yn gweithio fel gyrwyr tacsi, yn y diwydiant adeiladu, neu ffermio.

Cafodd y ffigyrau diweddaraf eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau.

Maen nhw dangos mai dynion dros eu hanner cant oedd yn cyfrif am bum allan o bob chwech o'r cynnydd a fu yn nifer yr hunan gyflogedig.

Dim ond 5% o'r rhai rhwng 16 a 24 oed sy'n hunan gyflogedig.

Roedd yna gynnydd 41% yn nifer y bobl hunan gyflogedig yn Sir Fon. Hwn oedd y pedwerydd cynnydd uchaf yn y Deyrnas Unedig.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.